Coleg Caerdydd a’r Fro yn croesawu ei Academïau Chwaraeon yn ôl ar gyfer hyfforddiant cyn y tymor gan gadw pellter cymdeithasol

24 Awst 2020

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi croesawu myfyrwyr talentog ei Academïau Chwaraeon yn ôl ar gyfer hyfforddiant cyn y tymor digyswllt gan gadw pellter cymdeithasol.

Mae dysgwyr yr Academïau Pêl Droed, Pêl Rwyd a Rygbi wedi gallu dod yn ôl i hyfforddi ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol arbenigol y Coleg yn Lecwydd, Caerdydd. Bydd myfyrwyr Academi Griced CAVC sy’n cael ei gweithredu gyda Chlwb Criced Morgannwg yn dychwelyd yn fuan i Erddi Sophia ar gyfer hyfforddiant.

Mae Academïau Chwaraeon CAVC yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg sy’n astudio cwrs Safon Uwch neu un o lawer o gyrsiau galwedigaethol ffocws ar yrfa’r Coleg. Mae’r Academïau’n galluogi i fyfyrwyr sicrhau cydbwysedd rhwng eu hastudiaethau a hyfforddiant o’r safon uchaf, cyfleusterau arbenigol eithriadol a chefnogaeth gyflawn, fel bod y myfyrwyr yn cyflawni eu potensial yn eu hastudiaethau a’u camp.      

Ar gyfer yr hyfforddiant digyswllt, mae ardaloedd penodol wedi cael eu rhannu’n barthau, gyda phwyslais ar sgiliau a chyflyru. Mae’r sesiynau i gyd yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru a’r Corff Rheoli ac mae’r dysgwyr yn gyfyngedig i grwpiau bach sy’n gorfod cadw 2m ar wahân.

Dywedodd Pennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus CAVC, James Young: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gallu croesawu’r myfyrwyr yn ôl i’r Academïau Chwaraeon sydd yma ar gyfer hyfforddiant digyswllt mewn amgylchedd diogel.

“Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae iechyd a diogelwch ein staff a’n myfyrwyr ni yn brif flaenoriaeth. Dyma pam rydyn ni wedi sefydlu mesurau llym i sicrhau bod ein rhaglen hyfforddi’n dechrau mewn ffordd gwbl ddiogel.”