Mae myfyriwr awyrofod o Goleg Caerdydd a’r Fro Kierran wedi ennill Gwobr Inspire! am newid ei fywyd yn llwyr

21 Medi 2020

Ar ôl i Kierran James gael cwymp erchyll yn Kenya wrth wasanaethu yno gyda'r Fyddin, daeth ei yrfa i ben am y tro, ond mae Kierran newydd ennill gwobr am ddysgu er gwaetha pawb a phopeth.

Ar ôl y ddamwain, dechreuodd Kierran gael ffitiau ac fe gafodd ei ryddhau o'r Fyddin ar sail feddygol, a oedd yn golygu bod yn rhaid iddo ailystyried ei yrfa.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae e newydd ennill gradd Anrhydedd dosbarth cyntaf BSc Cynnal a Chadw Awyrennau ac mae ganddo ddyfodol addawol ym myd peirianneg awyrenegol.

Er gwaetha brwydro gyda materion iechyd meddwl a phroblemau iechyd yn y teulu, wnaeth e ddim gadael i ddim byd ei atal.

Mae Kierran, sy'n 28, wedi ennill Gwobr Ysbrydoli! 'Newid bywyd a chynnydd', sy'n gydnabyddiaeth o'i lwyddiant wrth iddo drawsnewid ei fywyd drwy ddysgu.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac yn gwobrwyo'r rhai sydd wedi dangos grym dysgu, magu hyder a datblygu cymunedau bywiog a llwyddiannus.

Mae Kierran yn un o 12 enillydd sy'n ymddangos fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, wythnos llawn sesiynau blasu a dosbarthiadau meistr sydd â'r nod o ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed, ac sy'n cael ei chynnal ar-lein eleni ar 21-27 Medi.

Heb y gefnogaeth a'r teimlad o bwrpas yr oedd Kierran yn eu cael wrth wasanaethu gyda'r Fyddin, dechreuodd ei iechyd meddwl ddioddef, a chafodd ddiagnosis o iselder a gorbryder. Ar ôl blynyddoedd yn symud o swydd i swydd, roedd o wedi colli ei ffordd.

Meddai Kierran, sy'n 28: “Y Fyddin oedd yr unig beth oedd yn gyfarwydd i fi. Roedd llawer o aelodau fy nheulu yn y Fyddin ac roeddwn i wastad wedi dychmygu fy hun yn mynd o swydd i swydd o fewn y Fyddin.

“Mae'n ffordd o fyw ac mae'n teimlo fel teulu felly roedd cael hynny i gyd yn diflannu'n sydyn yn anodd iawn ymdopi ag ef.

“Roedd bywyd ar ôl hynny'n reit ddigalon, bues yn gweithio mewn nifer o dafarndai ond wnes i ddim llwyddo i aros yn unman. Arweiniodd hynny at or-yfed ac aeth popeth ar i lawr o hynny ymlaen.”

Daeth gobaith yn ôl i fywyd Kierran pan gyfarfu â'i bartner, Samantha, mewn barbeciw ffrind. Rhoddodd hi'r cymorth yr oedd ei angen arno i ddelio gyda'i broblemau iechyd meddwl.

“Roeddwn i wastad wedi cysylltu dysgu â'r amser anodd ges i yn yr ysgol pan fu ‘nhad farw'n sydyn ar ôl syrthio i lawr y grisiau," meddai Kierran, oedd ddim ond yn 12 oed pan fu farw ei dad.

“Ond roeddwn i'n gwybod bod angen i mi ennill cymwysterau os oeddwn am ailgychwyn ar fy ngyrfa.

“Yn y Fyddin roeddwn yn hyfforddi i fod yn beilot drôn Cerbydau Awyr Di-griw ac mae gen i ddiddordeb yn y diwydiant hedfan ers cyn cof, felly penderfynais wneud cais am y cwrs Trwydded 'A' yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

“Rhoddodd y cwrs hwn bwrpas i mi.”

Dechreuodd Kierran ar ei daith ddysgu ac ar ôl cwblhau ei Lefel 2 a 3 mewn modiwlau Trwydded A aeth ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn cynnal a chadw awyrennau.

Yn ystod ei amser ar y cwrs, cafodd ddiagnosis o ddyslecsia nad oedd neb wedi sylwi arno yn yr ysgol.

“Roeddwn i bob amser wedi teimlo bod gwaith ysgol yn waith caled ond ar ôl deall pam roeddwn i'n cael trafferth a gwneud newidiadau bach fel argraffu gwaith ar bapur melyn roeddwn i'n gallu cadw i fyny â’r gwaith yn y dosbarth yn well.”

Ers hynny, mae Kierran wedi siarad mewn ffeiriau gyrfaoedd, wedi ymgymryd â rôl arweinydd tîm ar brosiectau grŵp a sicrhau'r interniaeth gyntaf erioed mewn cwmni cynnal a chadw awyrennau a hyfforddi, Caerdav - sy'n adnabyddus oherwydd mai Bruce Dickinson o Iron Maiden sydd wrth y llyw yno.

“Roedd Bruce yn siarad mewn cynhadledd ac es i ato i ofyn am rywfaint o brofiad gwaith - pe baech wedi dweud hynny wrtha i bum mlynedd yn ôl, fyddwn i wedi chwerthin!”

Doedd Kierran ddim yn gallu graddio yn yr haf oherwydd y pandemig ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel gweithiwr cymorth iechyd meddwl, sy'n rhoi ychydig o arian ychwanegol iddo ar ben ei gyflog fel cynorthwyydd siop yn Argos.

“Mae iechyd meddwl wedi bod yn rhan o'm bywyd erioed. Hyd yn oed yn ystod fy amser yn y coleg byddwn yn cael dyddiau du a dyddiau da, ond byddai fy nhiwtoriaid yn fy nghefnogi ac yn trafod yr heriau roeddwn i'n eu hwynebu.

“Dwi wir yn gallu uniaethu â'r cleifion oherwydd fy mod i wedi bod yn eu sefyllfa nhw."

Mae Kierran a Samantha wedi bod drwy lawer gyda'i gilydd – cafodd Samantha broblemau iechyd difrifol yn 2019. Maen nhw’n bwriadu prynu tŷ gyda'i gilydd ac mae Kierran yn edrych ymlaen at ddechrau gyrfa yn y diwydiant hedfan.

Meddai: “Mae cefnogaeth ar gael a byddwn yn annog pobl i rannu eu problemau a'u nodau hefyd oherwydd fe fydd pobl yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd drwyddi.”

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu dysgu gydol oes, boed hynny mewn sefydliadau addysgol, ym myd gwaith, yn y cartref neu fel gweithgaredd hamdden. Bydd yr wythnos yn llawn sesiynau blasu a hanesion am lwyddiant i ddangos pam y gall dysgu sgil newydd newid eich stori.

Meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Hyd yn oed heb seremoni, mae mor bwysig ein bod yn dathlu enillwyr y Gwobrau Ysbrydoli! sydd wedi dangos dycnwch eithriadol.

“Mae Kierran yn enghraifft wych o sut mae dysgu gydol oes wedi trawsnewid ei fywyd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae'r ffaith bod pobl o bob oed yn ennill cymwysterau yn ein helpu ni i adeiladu gweithlu sydd â'r sgiliau cywir ar gyfer y normal newydd, ond mae hefyd yn ysbrydoli pobl i barhau i ddysgu ac archwilio cyfeiriadau gwahanol, gan gadw eu meddyliau a'u cyrff yn iach hefyd.”

Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: Ni fu erioed amser gwell nac amser pwysicach i ddechrau dysgu ac mae enillwyr ein Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos yn union beth sy'n bosibl. P'un a ydych chi eisiau dysgu sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd, gwella eich iechyd, neu ddysgu am rywbeth sydd wedi mynd â'ch bryd erioed, nawr yw'r amser i godi'r ffôn neu fynd ar-lein i gael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau ar eich taith.

“Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd miloedd o oedolion ledled Cymru newid eu stori drwy ddysgu rhywbeth newydd. Rydyn ni'n gobeithio y bydd straeon anhygoel pob un o enillwyr y gwobrau yn ysbrydoli miloedd yn fwy i gymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg oedolion.”

I gael gwybod beth sy'n digwydd yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion, ac am gyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a'r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru'n Gweithio ar 0800 028 4844, ewch i'ch canolfan Gyrfaoedd leol, neu chwiliwch am www.cymrungweithio.llyw.cymru