Bydd pobl ifanc yn y Brifddinas-Ranbarth yn elwa o ddull newydd a radical o gyflwyno sgiliau lefel uchel yn dilyn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro yn rhan o Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK heddiw (21ain Medi).
Wedi’i lansio gan WorldSkills UK mewn partneriaeth â’r elusen addysg a sgiliau NCFE, bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn ymgorffori safonau byd mewn datblygu sgiliau.
Dywedodd Parisa Shirazi, Pennaeth Datblygu Sgiliau a Chystadlaethau Rhyngwladol yn WorldSkills UK: “Mae hon yn garreg filltir fawr – cyfle unigryw i Goleg Caerdydd a’r Fro weithio gyda cholegau ledled y DU ac ymuno â’r chwyldro sgiliau newydd.
“Gan weithio gyda’r staff yn CCAF, byddwn yn hyrwyddo adferiad sy’n cael ei arwain gan sgiliau, yn cael ei sbarduno gan feincnodi rhyngwladol ac, yn gwbl briodol, sy’n gweld gwerth mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol o ansawdd uchel i alluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a fydd yn rhoi dyfodol disglair iddyn nhw.”
Gan ddefnyddio arbenigedd NCFE mewn datblygu’r cwricwlwm a’i wybodaeth am y systemau sgiliau byd-eang drwy ei aelodaeth o WorldSkills, yr hwb byd-eang ar gyfer rhagoriaeth sgiliau, bydd WorldSkills yn hyfforddi ac yn mentora staff yn CCAF. Bydd hyn yn galluogi’r Coleg i ymgorffori arferion a thechnegau o safon byd yn ddyfnach yn yr addysgu, y dysgu a’r asesu.
Yn cynnwys 20 o golegau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, bydd Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK hefyd yn chwarae rhan mewn cefnogi datblygiad safonau technegol uwch ar draws y datblygiadau asesu a chymwysterau.
Mae CCAF wedi chwarae rhan faith ac anrhydeddus gyda WorldSkills. Mae myfyrwyr ar draws y Coleg wedi cymryd rhan mewn rowndiau rhagbrofol cenedlaethol, Ewropeaidd a byd yn y cystadlaethau, gyda’r myfyrwyr Kyle Woodward a Tom Lewis yn cystadlu yn rowndiau terfynol diweddaraf WorldSkills yn Rwsia.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni rhagoriaeth yn ein rhaglenni addysgu a hyfforddi felly rydyn ni’n hynod falch o fod yn gweithio gyda WorldSkills UK ac NCFE.
“Bydd Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK yn gwella ein haddysgu ac yn arloesi’r cwricwlwm ac yn rhoi i’n myfyrwyr sgiliau a meddylfryd o safon byd fel eu bod hwy a’u cyflogwyr yn llwyddo.”