Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu llwyddiannau ei ddysgwyr Safon Uwch a BTEC

13 Awst 2020

Heddiw mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu’r dysgwyr sydd wedi cael canlyniadau rhagorol, ennill lle yn y prifysgolion gorau a sicrhau llwybrau cynnydd. 

Eleni dilynodd mwy nag erioed o fyfyrwyr yn y Coleg gyrsiau Safon Uwch, gyda mwy na 600 o ddysgwyr yn cael eu canlyniadau heddiw ac yn dathlu cyfradd lwyddo ragorol o 99% yn eu harholiadau Safon Uwch. 

Mae’r canlyniadau’n adeiladu ar y cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn mewn cyfraddau llwyddo Safon Uwch y mae CCAF wedi’i weld yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, gan gynnwys cyfraddau llwyddo’r rhai sy’n cael y graddau A*-B lefel uwch, ac maent yn tynnu sylw at ymrwymiad y Coleg i ddarparu addysg Safon Uwch o ansawdd uchel.                  

Eleni hefyd cynhaliwyd Diwrnod Canlyniadau BTEC ar yr un diwrnod a pherfformiodd myfyrwyr CCAF yn arbennig o dda. Fel un o’r darparwyr cymwysterau BTEC mwyaf yn y wlad, astudiodd tua 2,000 o fyfyrwyr am BTEC yn y Coleg ac mae’r rhai sy’n ennill graddau BTEC heddiw hefyd yn ennill pwyntiau UCAS, yn union fel dysgwyr Safon Uwch, i sicrhau cynnydd i brifysgol.         

Dywedodd Pennaeth CCAF, Kay Martin: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn gwbl wahanol. Tra rydyn ni wedi bod dan gyfyngiadau symud, mae’r staff a’r myfyrwyr wedi dod at ei gilydd er mwyn helpu ei gilydd i weithio, dysgu a gwneud cynnydd ar-lein. 

“Rydw i’n eithriadol falch o weld bod cymaint o’n myfyrwyr ni wedi gwneud mor dda o dan amgylchiadau mor ddigynsail. Mae’n wych gweld bod eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed a’u bod yn gallu symud ymlaen yn awr at ddysgu pellach, i brifysgol neu i gyflogaeth. 

“Fe hoffwn i ddiolch i’r myfyrwyr am eu hymrwymiad, a diolch i’r holl staff ar draws y Coleg sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod dysgu yn ystod y cyfyngiadau symud wedi gallu arwain at ganlyniadau mor rhagorol.”

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn un o’r darparwyr Safon Uwch mwyaf yn y Brifddinas-Ranbarth, gan gynnig mwy na 30 o wahanol gyrsiau, ar Gampws Canol y Ddinas nodedig y coleg gyda’i gyfleusterau modern, gan gynnwys labordai gwyddoniaeth, stiwdios dawns, theatr ac amrywiaeth eang o ofod dysgu penodol i bwnc. Hefyd mae ganddo Raglen Ysgolorion boblogaidd er mwyn helpu dysgwyr i gael lle yn y prifysgolion gorau. 

Bydd nifer fawr o fyfyrwyr CCAF yn symud ymlaen yn awr o Safon Uwch a BTEC i Addysg Uwch.       

Un myfyriwr a fanteisiodd i’r eithaf ar ddarpariaeth CCAF yw Jacob David, sydd wedi cael A*, dwy A a B ac mae’n mynd i Central Saint Martins yn Llundain i astudio Dylunio Graffig.   

“Rydw i mor gyffrous – mae’n ymddangos yn fwy real nawr ’mod i wedi cael fy nghanlyniadau,” meddai Jacob.

“Mae mynd i’r Coleg wedi fy helpu i i baratoi ar gyfer y brifysgol yn sicr – mae wedi fy ngwneud i’n ddysgwr mwy annibynnol. Dydw i ddim yn meddwl y byddai gen i ddigon o hyder i symud i Lundain oni bai ’mod i wedi dod i’r Coleg i ddechrau.” 

Cafodd Seren Evans, chwaraewraig yn Academi Pêl Rwyd CCAF, dair A* a B. Mae’n mynd ymlaen i Met Caerdydd i astudio Gwyddor Chwaraeon. 

“Mae’n teimlo’n real nawr,” dywedodd Seren. “Rydw i wir yn gyffrous. Roeddwn i wedi edrych ar brifysgolion eraill ond roeddwn i’n teimlo’n fi’n hun yn fwy ym Met Caerdydd. 

“Mae astudio yn y Coleg wedi fy ngwneud i’n llawer mwy annibynnol fel dysgwr ac yn barotach ar gyfer y brifysgol. Mae’n well na’r ysgol yn sicr. Fe wnes i hefyd fwynhau chwarae pêl rwyd ochr yn ochr â fy astudiaethau eraill.”

Mae’r dysgwr BTEC Aliyah Guenane yn symud ymlaen i Brifysgol Dinas Llundain i astudio Bydwreigiaeth.  

“Er pan oeddwn i’n fach – dyna oedd y prif beth i mi – roeddwn i wastad eisiau bod yn fydwraig,” meddai Aliyah. “Mae’r Coleg yn wahanol iawn i’r ysgol – rydych chi’n cael cefnogaeth ond mae’n rhaid i chi weithio eich hun. 

“Mae wedi fy nghymell i i weithio ac mae wedi fy helpu i’n fawr i baratoi ar gyfer y brifysgol.”

Cafodd Matt Davies A* ac A a nawr mae’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Meddygaeth. 

“Rydw i’n hapus iawn ac mae’n rhyddhad cael fy nghanlyniadau,” meddai. “Fe wnes i wir fwynhau fy nghyfnod yn y Coleg; mae’n wahanol iawn i chweched dosbarth yn yr ysgol. 

“Roeddwn i angen un Safon Uwch arall i fynd i’r Brifysgol ac mae gan y Coleg amrywiaeth ehangach o gyrsiau – roedd posib i mi wneud Bioleg ac fe gefais i wneud y cwrs yn gyflym mewn blwyddyn. 

“Yr hyn fyddwn i’n ei ddweud yw bod rhaid ‘breuddwydio ar raddfa fawr’! Fe fyddwn i hefyd yn hoffi diolch i’r Coleg am fy helpu i tra oedd fy mam yn sâl eleni.”

Cafodd Eleni Jones A a dwy B. Mae’n symud ymlaen i astudio Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd.   

“Rydw i wrth fy modd – er nad oedd raid i mi wneud arholiadau yn y diwedd, fe wnaeth fy ngwaith i brofi digon i mi,” meddai Eleni. “Caerdydd oedd fy newis cyntaf i ar gyfer Newyddiaduraeth a Chyfathrebu.

“Mae’r gwahaniaeth rhwng y Coleg a’r ysgol yn anhygoel – mae’n eich gwneud chi’n llawer mwy annibynnol ac yn barod am fywyd. Mae’r Coleg yn eich cefnogi chi heb eich babïo chi. Rydw i wir yn gyffrous ac yn edrych ymlaen at y brifysgol!”

Enillodd Leah Gillespie dair A* ac mae eisiau gwneud cais am gwrs Prifysgol Agored mewn Gwyddorau Cymdeithasol a Seicoleg. 

“Mae wedi bod yn ddiwrnod gwallgof,” meddai Leah. “Rydw i wrth fy modd, mae’n sioc ac rydw i mor hapus. 

“Mae gen i gymaint o ddyled i’r Coleg a’r holl diwtoriaid wnaeth fy helpu i i gyflawni cymaint. Roeddwn i wir yn addoli bod yn CCAF. 

“Doedd fy llwybr i ddim yn un traddodiadol – fe wnes i droi’n 20 oed yn ystod y cyfyngiadau symud! Fe ddois i’n ôl i’r coleg ar ôl cymryd blwyddyn allan. Mae wedi bod yn siwrnai anhygoel, mae gen i gymaint mwy o ffydd yno i fy hun a llawer mwy o hyder. 

“Dydi’r siwrnai heb fod yn un arferol i mi, ond rydw i wedi cyflawni cymaint ac fe hoffwn i feddwl bod posib i bobl eraill weld bod hon yn esiampl o beth allwch chi ei gyflawni.”