BMus (Anrh) mewn Perfformio a Recordio (Atodol)

L6 Lefel 6
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi eisiau ehangu ar eich doniau fel artist sy'n perfformio a recordio? Ydych chi'n artist perfformio neu'n ysgrifennu a chanu caneuon ac eisiau bod yn gerddor proffesiynol?

Mae'r cwrs hwn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r galw presennol gan y diwydiant cerddoriaeth. Ei nod yw datblygu eich sgiliau fel perfformiwr a chyfansoddwr, yn ogystal â'ch gwybodaeth dechnegol, a rhoi i chi ddealltwriaeth hanfodol o'r diwydiant er mwyn adeiladu eich gyrfa gerddorol.

Bydd gennych fynediad at amrywiaeth arbennig o gyfleusterau technegol a stiwdios. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd gydag offer proffesiynol a meddalwedd diweddaraf y diwydiant, stiwdio recordio ac ystafell gymysgu â sain amgylchynol, felly mae'n un o'r canolfannau sain gorau yng Nghaerdydd.

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CR11, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Dylai myfyrwyr CAVC sy’n astudio’r Diploma Addysg Uwch yn y maes hwn gysylltu â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ynglŷn â symud ymlaen i’r cwrs gradd atodol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r rhaglen newydd a chyffrous hon yn manteisio ar brofiad helaeth staff CAVC o'r diwydiant cerdd, ac mae wedi ei dylunio'n benodol mewn ymateb i anghenion arferion presennol ac arferion y dyfodol. Mae wedi'i hanelu at gerddorion/cyfansoddwyr sydd eisiau datblygu eu sgiliau chwarae, cyfansoddi a chynhyrchu offerynnol a gwybodaeth ymarferol o'r diwydiant er mwyn lansio a hyrwyddo eu gyrfa.

Byddwch yn cael cyfle i ddilyn modiwlau perfformio gan weithio mewn amgylcheddau un i un a grŵp i sicrhau dealltwriaeth berthnasol o theori cerdd, sgiliau offerynnol a cyfansoddi, a thechnegau perfformio.  Mae elfen reoli'r rhaglen hon yn sicrhau eich bod yn cael y cyfle i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i lansio a rheoli eich gyrfa berfformio. Byddwch hefyd yn gallu trefnu digwyddiadau a pherfformiadau byw, a rhwydweithio o fewn y diwydiant.

Yn cael ei arwain gan diwtoriaid profiadol sy'n gweithio yn y busnes cerddoriaeth ar hyn o bryd, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Lefel 6:

  • Prosiect Perfformio a Recordio
  • Perfformio ar gyfer Cynulleidfa
  • Adnoddau Recordio
  • Perfformio ar gyfer Diwydiant
  • Hyrwyddo eich Gyrfa

Mae ein lleoliad, sydd yn agos i'r sin gerddoriaeth fywiog yng Nghaerdydd, yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer lleoliadau gwaith, profiad gwaith a rhwydweithio. Byddwn hefyd yn eich annog i gydweithio â cherddorion ac artistiaid eraill yn CAVC er mwyn i chi allu rhoi eich sgiliau ar waith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd byw, gan weithio gyda pherfformwyr mewn amrywiaeth o genres.

Amodau a Thelerau

Cliciwch yma am fwy

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £9,000.00

Gofynion mynediad

  • DipHE, Gradd Sylfaen, HND neu gyfwerth yn y maes pwnc 
  • Yn ogystal â thri TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth) 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

13 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PCCC6F02
L6

Cymhwyster

BMus(Hons) in Music Performance & Record

Mwy...

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£5.2 billion

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn werth £5.2 biliwn i economi’r DU ac mae ganddo weithlu o 190,000 (UK Music 2019).

Gradd Meistr neu gyflogaeth.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cwrs, gallwch ddilyn gyrfa fel:

  • cerddor unigol
  • ysgrifennwr caneuon
  • cyfansoddwr
  • trefnydd cerddoriaeth
  • peiriannydd stiwdio
  • cynhyrchydd cerddoriaeth
  • technegydd sain byw
  • recordydd sain
  • peiriannydd ôl-gynhyrchu
  • gweithiwr darlledu proffesiynol

Fodd bynnag, gallwch ehangu eich dewis o yrfaoedd posib drwy eich dewisiadau yn y flwyddyn derfynol. Gall hyn fod mewn addysgu, lleoliadau diwydiant neu drwy archwilio celf sonig.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE