Ydych chi'n gerddor ifanc brwd sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth? Os felly, mae ein Diploma Lefel 2 ar gyfer Ymarferwyr Cerddoriaeth yn fan cychwyn gwych. Ar gyfer cerddorion a chynhyrchwyr sydd eisiau dod i ddeall y sector yn well, bydd y cwrs hwn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn llwyddo yn y diwydiant. Yn cael ei dysgu ar ein campws newydd sbon ni yng nghanol y ddinas, mae’r rhaglen hon yn cynnig blas i’r dysgwyr ar Berfformio Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth, gan roi sylw i unedau amrywiol yn ein cyfleusterau modern. Gall y myfyrwyr ddisgwyl dysgu gwybodaeth a datblygu sgiliau mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys y canlynol:
Er bod y cwrs yn un llawn amser, dim ond am 2 ddiwrnod yr wythnos mae disgwyl i’r myfyrwyr fod i mewn yn y coleg. Ar hyn o bryd mae’r amserlen wedi’i rhannu dros ddyddiau Mawrth ac Iau, mae’r rhaglen yn cael ei gweld yn aml fel gofyniad ar gyfer y cyrsiau BTEC Lefel 3 sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae’n rhoi’r wybodaeth mae’r myfyrwyr ei hangen er mwyn gwneud penderfyniad doeth am eu cam nesaf. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio un o’r cyrsiau canlynol:
Astudio Offerynnau a Pherfformiadau Cerddorol Byw
Mae’r unedau hyn yn canolbwyntio ar berfformiadau byw a datblygiad offerynnol – bydd y myfyrwyr yn gweithio tuag at nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn academaidd. Gallai hyn gynnwys perfformiadau unigol a/neu berfformio fel rhan o fand/grŵp. Bydd y dysgwyr yn cael cyfle hefyd i’w datblygu eu hunain ar eu hofferyn(nau) unigol.
Defnyddio Allweddell gyda DAW a Chyfansoddi Cerddoriaeth
Mae’r unedau hyn yn canolbwyntio ar fyfyrwyr yn datblygu eu sgiliau gydag Offerynnau Rhithiol. Gan ddefnyddio Gorsafoedd Gwaith Sain Digidol unigol fel Cubase, bydd y disgyblion yn dysgu’r sgiliau a’r technegau gofynnol i greu a chyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain.
Recordio Digidol, Cynhyrchu a Recordio Sain Byw
Mae’r unedau hyn mewn Stiwdio Recordio. Bydd y myfyrwyr yn dysgu’r technegau cysylltiedig â recordio’n broffesiynol eu hunain mewn stiwdio a recordiadau byw. Gan ddefnyddio ein cyfleusterau recordio cwbl fodern, byddant yn astudio nifer o unedau ymarferol, yn dysgu am ddewis microffonau, technegau ac offer recordio pwysig arall.
Trefnu, marchnata a hybu Digwyddiad Cerddoriaeth
Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn dysgu gwybodaeth am sut i drefnu a hybu Digwyddiad Cerddorol. Byddant yn trefnu eu digwyddiadau eu hunain drwy gydol y flwyddyn gan edrych ar dechnegau marchnata a hyrwyddo a’r holl elfennau cynllunio sy’n gysylltiedig â chynnal digwyddiad llwyddiannus.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu gymhwyster Lefel 1 yn y maes hwn. Rhaid i chi ddod i gyfweliad. Rhaid i chi ailsefyll TGAU Saesneg Iaith neu Fathemateg os Gradd D neu is. Hefyd bydd disgwyl i fyfyrwyr Cerddoriaeth wneud clyweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch symud ymlaen i astudio un ai ein cwrs BTEC Cerdd neu gwrs BTEC Cerdd (Cynhyrchu). Mae'r cyrsiau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau fydd yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth o'r sector, ac yn eich paratoi chi ar gyfer y math o waith y byddwch yn ei gael mewn maes cerdd.