BA (Anrhydedd) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig (Atodol)

L6 Lefel 6
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 17 Mai 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y BA(Anrhydedd) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig yn darparu agwedd unigryw a galwedigaethol at y pwnc yma, ble byddwch yn rhoi theori ar waith trwy ymarfer.
Mae'r cwrs yn ymdrin â phopeth o ymarfer sain a theori, i'r technegau cymysgu a chynhyrchu diweddaraf er mwyn eich hyfforddi chi gyda'r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant cerddoriaeth fyd-eang heddiw. Byddwch yn ennill gwerthfawrogiad dwys o rôl cynhyrchu cerddoriaeth electronig mewn creu cerddoriaeth heddiw, am ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiannau cerddoriaeth a'r cyfryngau.

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CR10, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Dylai myfyrwyr CAVC sy’n astudio’r Diploma Addysg Uwch yn y maes hwn gysylltu â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ynglŷn â symud ymlaen i’r cwrs gradd atodol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Drwy eich astudiaethau theori ac ymarferol, byddwch yn dod i ystyried cerddoriaeth electronig fel ffordd o greu cerddoriaeth all weddu at amrywiaeth o arddulliau, ac nid fel genre unigol yn unig.
Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd a chaledwedd cyfoes i samplo, rhoi trefn ar, cyfosod, cyfansoddi, cynhyrchu ac ailgymysgu sain, yn ogystal â gwneud cerddoriaeth ac arbrofi gyda dylunio sain.

Yn cael ei arwain gan diwtoriaid profiadol sydd yn gweithio yn y busnes cerddoriaeth, byddwch yn dysgu am ddarganfyddiadau newydd mewn ymchwil cerddoriaeth ac yn ennill mewnwelediad i'r diwydiant a allai eich helpu yn eich gyrfa. Yn ogystal, byddwch yn gallu gweithio gyda'n technegwyr/arddangoswyr sain cymwys a chyfeillgar thu hwnt, fydd yn eich helpu chi feistroli'r heriau technegol mewn cynhyrchu cerddoriaeth electronig.

Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol;

Lefel 6:

  • Celf Sonig
  • Dylunio Clyweledol
  • Technolegau Newydd
  • Cerddoriaeth Electronig ar gyfer Ffilmiau a Gemau
  • Prosiect Sylweddol

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £9,000.00

Gofynion mynediad

Er mwyn cofrestru ar drydedd flwyddyn y cwrs yn uniongyrchol, bydd angen ichi ddangos gwybodaeth a phrofiad priodol. Y gofynion mynediad safonol yw eich bod â 240 o gredydau israddedig (ar Lefelau 4 a 5) un ai drwy Ddiploma mewn Addysg Uwch, Gradd Sylfaen neu HND mewn maes pwnc perthnasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

17 Mai 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

13 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PCCC6F01
L6

Cymhwyster

Electronic Music Production BA Hons

Mwy...

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£5.2 billion

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn werth £5.2 biliwn i economi’r DU ac mae ganddo weithlu o 190,000 (UK Music 2019).

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cwrs, gallwch ddilyn gyrfa fel:

  • Recordydd ADR
  • peiriannydd cynorthwyol (stiwdio)
  • cyfarwyddwr sain
  • peiriannydd darlledu
  • DJ/ailgymysgwr
  • peiriannydd cymysgu sain byw
  • golygydd cerddoriaeth

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE