Bydd y cwrs newydd a chyffrous hwn yn rhoi pecyn cymorth o wybodaeth alwedigaethol i chi ym mhob un o dair disgyblaeth Theatr Gerdd, actio, canu a dawnsio. Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i'ch ymdrochi mewn amgylchedd realistig a chynhwysol, gan addysgu popeth am fyd proffesiynol Theatr Gerdd i chi.
Bydd y Diploma Sylfaen hwn mewn Theatr Gerdd sy'n werth 90 credyd yn datblygu eich sgiliau ar gyfer y diwydiant, gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn edrych ar Hanes Theatr Gerdd ac yn astudio enghreifftiau drwy wylio perfformiadau byw neu wedi'u recordio. Byddwch yn astudio technegau actio, actio drwy ganu ac actio mewn perfformiad. Byddwch hefyd yn datblygu darnau clyweliad a repertoire caneuon a byddwch yn creu eich proffil diwydiant eich hun drwy astudio'r busnes celfyddydau perfformio, cynhyrchu CV/fideo yn hyrwyddo eich hun/tap arddangos neu wefan.
O ran yr ochr ddawns, byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol a pherfformio mewn amrywiaeth eang o arddulliau dawns yn cynnwys cyfoes, jas a bale. Byddwch yn datblygu eich hyder wrth greu a dysgu coreograffi ac yn cael nifer o gyfleoedd i ddatblygu eich gwaith perfformio mewn dosbarth techneg a phrosiectau perfformio.
Byddwch yn archwilio arddulliau theatr gerdd gwahanol o Rogers a Hammerstein i'r sioeau cerdd mwy modern i ganu ensemble ac unigol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau lleisiol ac yn cael cyfleoedd i berfformio drwy'r flwyddyn gan orffen gyda sioe derfynol yn ymgorffori pob un o'r tair disgyblaeth.
Bydd y cwrs yn cael ei farcio drwy asesu parhaus sy'n cynnwys aseiniadau rheolaidd ac asesiadau ymarferol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU Gradd A* - C, gan gynnwys Iaith Saesneg neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Bydd disgwyl i fyfyrwyr Theatr Gerddorol wneud clyweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Gallai’r coleg gynnig popeth yr oeddwn ei angen o ran cyfleusterau, gyda’r theatr a’r goleuo, a stiwdios dawns. Mae’r gefnogaeth sydd i’w chael yn y coleg yn dda, maent yn cadw mewn cysylltiad â ni i sicrhau ein bod yn iawn ar y cwrs, ac rydym bob amser yn cael popeth sydd ei angen arnom.”
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, gallwch ddatblygu'r Diploma yn Ddiploma Estynedig, gan astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r cwrs yn gyfwerth â 2 neu 3 gradd Safon Uwch, a gall ddarparu digon o bwyntiau UCAS i fynd ymlaen i'r Brifysgol neu golegau Drama/Theatr Gerdd.