Celfyddydau Perfformio

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Os ydych chi’n awyddus i ddilyn gyrfa gyffrous yn y diwydiant theatr, mae ein cwrs yn ddechrau da! Yn cael ei ddysgu ar ein Campws Canol Dinas, mae’r cwrs hwn yn cynnig siawns i’n dysgwyr ni i astudio ar gyfer cymhwyster Celfyddydau Perfformio a adnabyddir yn genedlaethol, cwrs a fydd yn datblygu llawer o’r sgiliau sy’n ofynnol i berfformio ym myd y theatr a’r teledu. Yn rhan o’r rhaglen, bydd yr holl ddisgyblion yn astudio Sgiliau Allweddol ac yn cael eu cofrestru ar gyfer achrediad. Mae Sgiliau Allweddol yn hynod bwysig wrth ddatblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo i fywyd yn gyffredinol, ac mae’r pwyntiau sy’n cael eu hennill yn yr achrediad yn cael eu hadnabod gan Sefydliadau Addysg Uwch.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio ystod eang o unedau a sgiliau gan gynnwys:

  • Datblygu Sgiliau Actio
  • Archwilio Arddull Perfformio
  • Creu Gwaith Perfformio
  • Dyfeisio
  • Actio ym myd y Ffilm a Theledu
  • Cyfarwyddo
  • Symudiad
  • Perfformiad Theatr Glasurol/Cyfoes
  • Drama Fyrfyfyr
  • Theatr Gorfforol
  • Gweithio yn Niwydiant y Celfyddydau Perfformio

Unwaith y byddwch wedi ennill y cymhwyster hwn, gallwch fynd gam ymhellach trwy astudio am flwyddyn arall er mwyn cael Diploma Estynedig. Mae’r cwrs yn cyfateb i 3 Lefel A ac yn gallu darparu digon o bwyntiau UCAS i fynd i’r Brifysgol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Stiwdio: £65.00

Gofynion mynediad

5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd llwyddo neu uwch. Bydd disgwyl i fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio fynychu clyweliad.

Cyfleusterau

Cyfleusterau ardderchog yn cynnwys theatr a stiwdio ddrama sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Cysylltiadau cryf â sefydliadau celfyddydau perfformio.

Addysgu ac Asesu

Bydd asesiadau athrawon yn cynnwys gwaith ymarferol, ymarfer, gweithdai theatr, cydweithio’n greadigol, perfformio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PCCC3F08
L3

Cymhwyster

Lefel 3 Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Mwy

Fideos
Dysgu Dwyieithog
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Gallai’r coleg gynnig popeth yr oeddwn ei angen o ran cyfleusterau, gyda’r theatr a’r goleuo, a stiwdios dawns. Mae’r gefnogaeth sydd i’w chael yn y coleg yn dda, maent yn cadw mewn cysylltiad â ni i sicrhau ein bod yn iawn ar y cwrs, ac rydym bob amser yn cael popeth sydd ei angen arnom."

Bethan Simmons
Sy’n astudio’r Celfyddydau Perfformio Lefel 3 ar hyn o bryd, Blwyddyn 2 ​

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

2,400

Yn ôl y data a gynhwysir yn Adroddiad Clwstwr 2020, mae yna dros 2,400 o swyddi yn y diwydiant Cerddoriaeth, perfformio a’r celfyddydau gweledol gyda chyfradd twf blynyddol cyfartalog o 2.2% yng Nghaerdydd (2009-2017).

Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i addysg uwch ac i ysgolion drama i barhau â’u hyfforddiant yn y maes Celfyddydau Perfformio.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE