Mae Diploma Proffesiynol Lefel 4 Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) mewn Perfformio yn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu a gwella eu sgiliau perfformio er mwyn paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, neu waith yn y sector.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymestyn a chyfoethogi lefel eu sgiliau ymarferol wrth ddatblygu eu diddordebau personol a'u maes arbenigedd.
Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n bwriadu dilyn gyrfa yn y celfyddydau creadigol; eu galluogi nhw i ddeall mwy am eu creadigrwydd, ei ddatblygu a'i roi ar waith. Mae'r prosiectau a wneir yn ystod y cwrs yn ceisio diffinio uchelgeisiau artistig a chyfleoedd dilyniant yn ogystal â datblygu ymarfer proffesiynol.
Uned 1 - Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol: Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i wirioneddau lleoliad gwaith proffesiynol, a bydd yn rhoi iddynt y safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol mewn ymarferion sy'n ofynnol o fewn y diwydiant. Bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r gofynion a roddir ar ysgwyddau'r perfformiwr mewn ystafell ymarfer (a thu allan iddi), a byddant yn dechrau cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol eu hunain.
Uned 2 - Ymarfer Perfformio Arbenigol: Mae'r uned hon yn gyfle i fyfyrwyr daro golwg fanylach ar eu llwybrau arbenigol dewisol drwy eu caniatáu nhw i ddatblygu a chyfoethogi eu sgiliau perfformio technegol drwy gael eu rhoi mewn lleoliad gwaith proffesiynol. Yn y lleoliadau hyn, byddant yn dod i ddeall y ddisgyblaeth sy'n ofynnol mewn ymarfer proffesiynol.
Datblygir sgiliau ymarferol eang ac amrywiol, yn dibynnu ar gyd-destun y gwaith a wneir a'r tîm(au) cynhyrchu mae'r myfyriwr yn gweithio ag o/â nhw. Bydd y myfyriwr yn datblygu ei ymarfer proffesiynol drwy weithio gydag arddulliau a chyfnodau hanesyddol gwahanol, a thrwy greu gwaith ar gyfer
cynulleidfaoedd penodol.
Uned 3 - Prosiect Perfformio Arbenigol: Bydd cynnwys yr uned yn amrywio yn ôl gofynion penodol y prosiect y bydd y myfyriwr yn ei ddewis, sy'n cael ei drafod mewn trafodaeth â darlithwyr. Bydd gwaith monitro llym a pharhaus o'r prosiect yn holl bwysig os yw myfyriwr am fodloni gofynion yr uned hon yn llwyddiannus. Ymhlith y gweithgareddau arferol y bydd myfyrwyr yn eu gwneud, mae; ymarferion, gweithdai, ymchwil a datblygu, cynllunio, cyflwyniadau, cyfarfodydd cynhyrchu, drafftiau neu 'waith ar y gweill' a digwyddiadau perfformio.
Cymhwyster Celfyddydau Perfformio UG/Sofon Uwch/L3 neu brofiad cyfwerth. Bydd disgwyl i fyfyrwyr Celfyddydau Pefformio gymryd rhan mewn clyweliad. Rydym hefyd yn argymell y dylai myfyrwyr fod ag o leiaf TGAU gradd 4 neu radd C (neu gymhwyster Lefel 2 cyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg.
Disgwylir i fyfyrwyr rhyngwladol allu dangos fod ganddynt lefel dda o Saesneg ysgrifenedig a llafar, ac argymhellir y dylai fod ganddynt sgôr IELTS (neu gyfwerth) o ddim llai na 5.0.
Bydd cyfweliad yn ofynnol er mwyn asesu addasrwydd ymgeiswyr.
Rhaid bod yn 18 oed neu hŷn.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Gallai’r coleg gynnig popeth yr oeddwn ei angen o ran cyfleusterau, gyda’r theatr a’r goleuo, a stiwdios dawns. Mae’r gefnogaeth sydd i’w chael yn y coleg yn dda, maent yn cadw mewn cysylltiad â ni i sicrhau ein bod yn iawn ar y cwrs, ac rydym bob amser yn cael popeth sydd ei angen arnom.”
Bydd gan y myfyrwyr sydd wedi cwblhau Diploma Proffesiynol Lefel 4 UAL mewn Perfformio'r sgiliau a'r ddealltwriaeth hollbwysig i fynd ymlaen at Addysg Uwch, hyfforddiant pellach neu hyfforddiant mewn conservatoire, neu waith neu hunangyflogaeth yn y diwydiant.