Os ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa gyffrous yn y diwydiant cerddoriaeth, mae ein Diploma Estynedig a Sylfaenol Lefel 3 mewn Cerddoriaeth (Perfformio) yn fan cychwyn gwych. Mae'r Diploma yn gwrs llawn amser dros ddwy flynedd, wedi'i gynnal ar ein Campws Canol y Ddinas, ac mae wedi'i anelu'n benodol at gerddorion perfformio. Bydd y Diploma hefyd yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer astudiaeth Addysg Uwch mewn cyrsiau sy’n ymwneud â cherddoriaeth. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar y pedwar prif bwnc canlynol, sy'n cynnwys:
Yn ogystal, gall dysgwyr ddisgwyl ennill gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o berfformiadau grŵp a'r broses ymarfer, trefnu digwyddiadau a deall sut mae'r diwydiant cerddoriaeth yn gweithio, a'r cwbl wrth ddatblygu sgiliau o ran damcaniaeth, cyfansoddi a gwrando.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio ystod eang o fodiwlau, gan gynnwys:
Mae nifer o ddisgyblion yn mynd ymlaen i astudio cerddoriaeth ac arbenigo yn eu hofferyn neu gymhwyso eu sgiliau trosglwyddiadau i bwnc perthnasol yn eu Prifysgol o'u dewis.
Bydd dysgwyr hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru fel rhan o’u rhaglen astudio, sydd hefyd yn cynnwys sesiynau tiwtorial ac e-diwtorialau wythnosol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU Gradd A* - C, gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Teilyngdod neu uwch, ynghyd â TGAU Saesneg a Mathemateg ar radd C neu uwch. Rhaid i'r holl ymgeiswyr fynychu cyfweliad a chlyweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Mwynheais y cwrs yn fawr, rwyf wedi cael bod yn greadigol a gweithio gydag artistiaid eraill. Mae wedi fy ngwneud yn hapus iawn!”