Mae hwn yn gwrs dechreuol i bobl sydd eisiau deall a datblygu technegau actio ar gyfer perfformiadau byw. Yn ystod y cwrs, edrychir ar wahanol arddulliau theatr ac actio sydd o ddiddordeb i'r grŵp, yn ogystal â chyflwyno genres newydd a mwy anghyfarwydd. Mae'n gwrs diddorol, wedi'i ddylunio i ddarparu hanfodion technegau actio cyfoes i'r cyfranogwyr.
Bydd y cwrs yn eich galluogi chi i gychwyn cael gafael ar sgiliau actio a ellir eu defnyddio yn y gweithle. Byddai unrhyw un sy'n siarad yn gyhoeddus o fewn eu swydd, megis Athrawon, Rheolwyr, Arweinwyr Grŵp yn elwa o'r cwrs hwn.
Byddai perfformwyr amatur hefyd yn elwa o fynd â'r sgiliau a ddysgwyd ar y cwrs hwn yn ôl i'w cymdeithasau perfformio i'w hymgorffori mewn prosiectau yn y dyfodol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £40.00
Bydd ymgeiswyr dymunol yn gyfarwydd â nodweddion sylfaenol actio. Rhaid iddynt fod yn 18 oed o leiaf a rhaid cael cyfweliad boddhaol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i astudio cwrs 'Gradd Sylfaen yn y Celfyddydau Perfformio'. Bydd y rhaglen hon yn datblygu sgil, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn paratoi'r dysgwr ar gyfer cyflogaeth yn y sector neu ar gyfer astudiaeth academaidd bellach.