Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n dymuno deall arferion gwaith cynaliadwy ar gyfer swydd benodol, swydd yn y dyfodol a hyfforddiant parhaus. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy’n awyddus i weithio ym maes cynaliadwyedd neu sydd wedi cael cyfrifoldeb am gynaliadwyedd o fewn eu sefydliadau. Mae'r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar draws pob sector. Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu neu wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o Gynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein, er y bydd angen mynychu campws Colcot Road ar ôl hyn i gael ei asesu.
Deall ffactorau sy’n effeithio ar ein hamgylchedd. Deall cynaliadwyedd a’r ffactorau sy’n effeithio arno. Deall effeithiau byrdymor a hirdymor newid hinsawdd. Deall effeithiau allyriadau carbon a sut mae modd eu rheoli. Prawf ysgrifenedig fydd yr asesiad.
Ffi Arholiad : £40.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
TGAU gradd D neu gyfwerth mewn Saesneg
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i ystyried dod i’r coleg a gweld mai Peirianneg Drydanol oeddwn i eisiau ei wneud. Roedd i’w weld yn gyfle da i mi, felly fe ddes i weld a oedd hwn yn rhywbeth yr oedd gen i ddiddordeb ynddo ac eisiau gwneud gyrfa ohono.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiynau ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fod ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Fel rhan o’m cwrs rwyf wedi defnyddio dronau a robotiaid bychan hefyd. Mae’r athrawon wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y cwrs ac ar ôl cwblhau’r cwrs hwn rwy’n gobeithio ennill Prentisiaeth Uwch neu fynd yn fy mlaen i’r Brifysgol i astudio Peirianneg Drydanol.
Astudiaeth bellach o fewn y Gyfadran Dechnoleg.