Yn ystod y broses gymhwyso byddwch yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn Weldio Arc Metel ag Amddiffyniad Nwy (MAGS), yn llorweddol ac yn fertigol. Byddwch yn cwblhau gwaith weldio ac yn gwerthuso eich gwaith yn erbyn gofynion y weithdrefn weldio (WPS) sydd o fewn asesiad mewnol yr uned, gan sicrhau bod eich gwaith yn addas at y diben. Yn ychwanegol, byddwch yn dysgu’r wybodaeth gysylltiedig sylfaenol sy’n berthnasol i’r broses MAGS, gan gynnwys diogelwch, defnydd offer a dewis nwyddau traul. Bwriedir y Cymhwyster hwn er mwyn darparu lefel o wybodaeth sy’n galluogi i weldio sylfaenol gael ei gyflawni’n ddiogel ac i sicrhau lefel sylfaenol o wybodaeth a sgiliau er mwyn gallu symud ymlaen at gymwysterau lefel 2.
Ar gyfer pob cymhwyster, bydd rhaid i bob ymgeisydd gwblhau pum asesiad ymarferol ac un prawf gwybodaeth ysgrifenedig.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae diddordeb brwd mewn prosesau MIG/MAG weldio a pharodrwydd i ddysgu yn hanfodol. Bydd angen Esgidiau Diogelwch ac Oferôls ar gyfer sesiynau gweithdy. Bydd pob PPE hanfodol arall yn cael ei ddarparu.
Ffi Cwrs: £306.87
Ffi Arholiad : £73.13
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall ymgeiswyr symud ymlaen i fyd gwaith neu at gymwysterau Lefel 2.
Gall y Dyfarniadau a’r Tystysgrifau y gallwch ennill drwy gwblhau ein cymwysterau arwain at yrfa yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch a’r sector Peirianneg.
Gall arwain at nifer o swyddi gwahanol, yn cynnwys: