Mae'r cymhwyster hwn yn cymysgu disgyblaethau sydd fel arfer ym maes sectorau Technoleg Gwybodaeth, Trydanol, Electronig, Mecanyddol a Gwyddoniaeth.
Wedi’i anelu’n bennaf at ddysgwyr sydd â diddordeb mewn cyfrifiadura a pheirianneg sy’n ffafrio ffordd ymarferol o ddysgu. Mae wedi’i gynllunio i roi'r sgiliau ymarferol a’r ddealltwriaeth i’r dysgwr i fynd â hwy at lefel nesaf eu hastudiaethau o fewn y disgyblaethau peirianneg a chyfrifiadura.
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi’r cyfle i’r dysgwr gael agwedd ymarferol tuag at ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o ddisgyblaethau fel Electroneg, Awtomatiaeth, Micrbrosesyddion, Rhwydweithio, Seiber neu brosesau gweithgynhyrchu, fel argraffu 3D.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i ystyried dod i’r coleg a gweld mai Peirianneg Drydanol oeddwn i eisiau ei wneud. Roedd i’w weld yn gyfle da i mi, felly fe ddes i weld a oedd hwn yn rhywbeth yr oedd gen i ddiddordeb ynddo ac eisiau gwneud gyrfa ohono.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiynau ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fod ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Fel rhan o’m cwrs rwyf wedi defnyddio dronau a robotiaid bychan hefyd. Mae’r athrawon wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y cwrs ac ar ôl cwblhau’r cwrs hwn rwy’n gobeithio ennill Prentisiaeth Uwch neu fynd yn fy mlaen i’r Brifysgol i astudio Peirianneg Drydanol.
Gall dysgwyr symud ymlaen i ddarpariaeth L3 Uwch i barhau â’u taith i faes y galw sy’n tyfu’n gyflym am ddyfodol mewn technolegau digidol uwch ar draws ystod o sectorau diwydiant. Fel arall, gallech ddewis arbenigo mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch neu ddisgyblaethau cysylltiedig â TG ar L3, L4 a thu hwnt.
Mae’r arolwg sgiliau diweddaraf ar gyfer y rhanbarth yn dangos bod 73% o ymatebwyr yn y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch yn wynebu prinder sgiliau i’w galluogi i ddefnyddio cynhyrchion arloesol gwerth ychwanegol uchel o fewn y sector awyrofod, modurol, lled-ddargludyddion cyfansawdd, peirianneg trafnidiaeth a pheirianneg arbenigol fel gweithgynhyrchu clyfar ac ynni adnewyddadwy.