HNC mewn Peirianneg

L4 Lefel 4
Rhan Amser
16 Medi 2024 — 12 Mehefin 2026
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs yn cynnig nifer o opsiynau i rai sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes Peirianneg. Os ydych yn brentis neu wedi astudio cwrs Peirianneg lefel 3 amser llawn mewn Peirianneg Gyffredinol, Gwaith Trydanol/Electroneg, Gweithgynhyrchu, Gwaith Mecanyddol neu Fecatroneg, mae'r cwrs hwn yn gam delfrydol ymlaen tuag at radd neu ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
Byddai'r cwrs hwn hefyd yn helpu dysgwyr sy'n awyddus i ychwanegu at eu pwyntiau UCAS drwy ennill unedau Peirianneg ychwanegol.

Gallwn gynnig yr opsiwn amser llawn a'r opsiynau rhan-amser, gan roi'r hyblygrwydd i chi allu mynychu o gwmpas ymrwymiadau gwaith neu amgylchiadau personol.

Ceir bwlch sgiliau cynyddol a phrinder talent yn y gweithlu Peirianneg. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol, effeithlonrwydd a gweithgynhyrchu uwch wedi dod yn hanfodol i gwsmeriaid. Yn ffodus, mae datblygiadau ym maes technoleg yn rhoi inni'r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar ein pobl, ein cymdeithas a'n planed.  Mae Peirianwyr yn dylunio, gwneud a gwella'r amrywiaeth eang o dechnoleg sydd o'n cwmpas - o geir ac awyrennau i esgidiau chwaraeon, dyfeisiau symudol ac amrywiaeth eang o brosesau gweithgynhyrchu uwch.  Mae peirianwyr wedi cael dylanwad ar ran sylweddol o'r byd modern. Nhw sydd wedi rhoi inni ffonau symudol, gorsafoedd pŵer niwclear, peiriannau anadlu mecanyddol, argraffu 3D a lled-ddargludyddion - gallai'r rhestr fynd ymlaen am byth.  Mae swyddi peirianneg ar gael ar bob lefel.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  1. Llwybr I:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Drydanol ac Electronig)
  2. Llwybr II:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Gweithgynhyrchu)
  3. Llwybr III:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Fecanyddol)
  4. Llwybr IV: HNC/D Peirianneg (Peirianneg Gyffredinol)

Lefel 4  HNC Peirianneg (Unedau Craidd)

Rhif y Modiwl

Teitl y Modiwl

Lefel

Gwerth Credydol


Craidd



1

Dylunio Peirianneg

4

15

2

Gwyddoniaeth Peirianneg

4

15

3

Mathemateg Peirianneg

4

15

4

Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol (gosodir gan Pearson)

4

15

Bydd unedau dewisol yn wahanol ar sail llwybrau unigol sy'n cael eu rhedeg, yn dibynnu ar recriwtio. Efallai y bydd hyn yn gofyn am fynychu safle arall.

Mae'r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys profion, arholiadau, aseiniadau, astudiaethau achos a phrosiectau (cysylltiedig â gwaith).  

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £1,920.00

Gofynion mynediad

Yn achos myfyrwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, mae'r proffil mynediad yn debygol o gynnwys 48 pwynt tariff UCAS a gafwyd o un o'r canlynol:  ●  Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (gyda phroffil Teilyngdod yn ddelfrydol) ● Proffil Lefel Uwch TAG sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth)  ●  Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill  ●  Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy  ●  Profiad gwaith cysylltiedig  ●  Cymwysterau rhyngwladol sy'n gyfwerth â'r uchod.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

16 Medi 2024

Dyddiad gorffen

12 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

EECR4P10
L4

Cymhwyster

HNC in Engineering

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Astudio Pellach

  • Gall dysgwyr HNC symud ymlaen i'r ddarpariaeth HND
  • Gradd addas mewn prifysgol leol.
  • Gradd Meistr

Cyfleoedd cyflogaeth posib

  • Technegwyr Peirianneg a Pheirianwyr
  • Gweithredwyr Technegol
  • Rheolwyr peirianneg

Yn ôl Adzuna (gwefan swyddi a gyrfaoedd - Mai 2020):

Y cyflog cyfartalog ar gyfer yr holl swyddi Peirianneg yw £37,910. Mae hyn yn uwch na chyflog cyfartalog yr holl swyddi sy'n cael eu hysbysebu, sef £34,291.

Adroddiadau Sgiliau a Galw mewn Diwydiant yr IET:

  • Yn ôl 60% o gyflogwyr, recriwtio staff peirianneg a thechnegol sydd â'r sgiliau priodol yw'r rhwystr mwyaf a ddisgwylir wrth geisio cyflawni amcanion busnes dros y tair blynedd nesaf.
  • Dywed 48% y ceir anawsterau o ran y sgiliau sydd ar gael yn y farchnad lafur allanol wrth geisio recriwtio
  • Mae 81% yn cytuno bod gan fusnesau gyfrifoldeb i gefnogi'r datblygiad o addysg a hyfforddiant i fyd gwaith, er mwyn cael pobl sydd â'r sgiliau cywir.
  • Mae galw mawr am beirianwyr! Mae 19% o holl weithlu'r Deyrnas Unedig wedi'i gyflogi yn y sector peirianneg - ond ceir pryderon o hyd nad yw'r genedl yn cynhyrchu digon o beirianwyr cymwys.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ