Bydd ein Diploma Peirianneg EAL yn addas i unrhyw un sy'n chwilio am yrfa mewn Peirianneg neu faes cysylltiedig. Bydd y rhaglen hon yn dysgu’r sylfaeni i ddysgwyr, gan eu galluogi i roi cynnig ar amrywiol wahanol grefftau a gyrfaoedd, er mwyn iddynt ganfod beth maent yn ei fwynhau fwyaf a beth sydd fwyaf addas iddynt. Wrth astudio yng nghyfleusterau arbenigol y coleg ac mewn gweithdai penodol i’r diwydiant, bydd myfyrwyr yn gweithio ar y cyd â staff profiadol a chymwys i gyflawni cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i brofi peirianneg fecanyddol, drydanol, electronig a pheirianneg gyffredinol, yn ogystal ag amrywiaeth o sesiynau ymarferol a theori, gan sicrhau nifer o gymwysterau diwydiant yn y broses.
Ar y cwrs hwn, byddwch chi'n astudio amrediad eang o sesiynau ymarferol a theori, yn cynnwys:
Asesir drwy aseiniadau, cyflwyniadau, astudiaethau achos, arholiadau ac ymchwil mewn lleoliad sy’n seiliedig ar waith. Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau lleoliad.
Mi wnes i ystyried dod i’r coleg a gweld mai Peirianneg Drydanol oeddwn i eisiau ei wneud. Roedd i’w weld yn gyfle da i mi, felly fe ddes i weld a oedd hwn yn rhywbeth yr oedd gen i ddiddordeb ynddo ac eisiau gwneud gyrfa ohono.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiynau ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fod ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Fel rhan o’m cwrs rwyf wedi defnyddio dronau a robotiaid bychan hefyd. Mae’r athrawon wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y cwrs ac ar ôl cwblhau’r cwrs hwn rwy’n gobeithio ennill Prentisiaeth Uwch neu fynd yn fy mlaen i’r Brifysgol i astudio Peirianneg Drydanol.
Ar ôl cwblhau’r radd sylfaen, gall myfyrwyr astudio blwyddyn atodol, ym Mhrifysgol De Cymru, er mwyn cyflawni gradd anrhydedd lawn.