Mae ein Diploma Atodol mewn Peirianneg Drydanol/Electronig yn berffaith ar gyfer yr unigolion hynny sy’n awyddus i ddilyn gyrfa fel Peiriannydd Trydanol/Electronig. Os ydych yn chwilio am yrfa fel Peiriannydd, dylech fod yn edrych ar gyrsiau Gosodiad Trydanol. Wedi’i lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i fodloni safonau diwydiant, gan ddarparu dealltwriaeth o dechnegau trydanol a’u cymwysiadau. Wrth astudio yng nghyfleusterau arbenigol y Colegau a mynychu gweithdai penodol i ddiwydiant, bydd myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â staff cymwys a phrofiadol er mwyn cyflawni cymhwyster cydnabyddedig mewn diwydiant. Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i ddychwelyd i wneud y Diploma EAL neu'r Diploma Estynedig mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer mynediad i brentisiaeth dechnegol/peirianneg.
Gall y pynciau gynnwys:
5 TGAU Gradd A* - C i gynnwys; Mathemateg A* - B, Gwyddoniaeth A* - C a Saesneg A - D.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiyani ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fof ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeith yn y dyfodol.
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i'r Diploma Estynedig mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd ar drywydd amrywiol gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant.