Os ydych chi’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn peirianneg, yna mae ein cwrs Lefel 1 mewn Peirianneg Electroneg yn lle gwych i gychwyn arni! Mae’r rhaglen yn darparu cefndir i Systemau Electroneg, a bydd yn datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol a’r wybodaeth sy’n ofynnol i barhau ar y llwybrau cynnydd yn y coleg, gan sicrhau llwyddiant o fewn y diwydiant yn y pen draw.
Yn astudio yng nghyfleusterau arbenigol y Coleg a gweithdai penodol i ddiwydiant, bydd disgyblion yn gweithio ochr yn ochr â staff cymwys a phrofiadol i ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant. Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn astudio’r Lefel 1 NVQ neu gyfwerth mewn Sgiliau Mecanyddol a Thrydanol.
Byddai’r ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D i F. Fel arall, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, gyda dyhead ac ymrwymiad i gwblhau'r cwrs maent yn dymuno ei astudio. Bydd angen cyfrifiannell wyddonol a PPE ar yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs yma, gan gynnwys esgidiau blaen dur ac oferôls.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i ystyried dod i’r coleg a gweld mai Peirianneg Drydanol oeddwn i eisiau ei wneud. Roedd i’w weld yn gyfle da i mi, felly fe ddes i weld a oedd hwn yn rhywbeth yr oedd gen i ddiddordeb ynddo ac eisiau gwneud gyrfa ohono.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiynau ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fod ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Fel rhan o’m cwrs rwyf wedi defnyddio dronau a robotiaid bychan hefyd. Mae’r athrawon wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y cwrs ac ar ôl cwblhau’r cwrs hwn rwy’n gobeithio ennill Prentisiaeth Uwch neu fynd yn fy mlaen i’r Brifysgol i astudio Peirianneg Drydanol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y dewis i symud ymlaen ar y cwrs Lefel 2 llawn amser o’u llwybr Peirianneg dewisol (Electroneg / Mecanyddol).