Mae’r cwrs 18fed Argraffiad yn gymhwyster trydanol hanfodol. Ers mis Ionawr 2019 mae’n rhaid i unrhyw osodiadau fod wedi’u cynllunio yn unol â Rheoliadau’r 18fed Argraffiad.
Nod y cwrs yw sicrhau dealltwriaeth dda’r ymgeiswyr o Reoliadau’r 18fed Argraffiad a darparu canllaw i arferion gweithio da ar safle. Prif nod y cwrs yw rhoi sylw i gwmpas a gofynion y Rheoliadau Gwifrau Trydan a diweddaru’r dysgwyr yn dilyn rheoliadau’r 17eg Argraffiad.
Mae’n rhaid i chi gael defnydd o PC/Gliniadur i ymgymryd â’r hyfforddiant hwn.
Bydd y cwrs yn ystod y dydd yn cael ei gynnal 9:00am - 5:00pm (oddeutu) yn adeilad y darparwr hyfforddiant.
Bydd y cwrs fin nos yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 6:00pm - 9:00pm drwy ystafell ddosbarth ar-lein, gyda chyfnod o hunan astudio’n angenrheidiol rhwng y dosbarthiadau ar-lein.
ARHOLIAD: Bydd yn ofynnol i chi deithio i adeilad y darparwr hyfforddiant i gwblhau’r arholiad ar ddiwedd y cwrs.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae ein cwrs 18fed Cyfrol yn sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r rheoliadau gwifrio diweddaraf (BS7671), gan gynnwys defnyddio, gweithredu a gosod offer a systemau trydanol yn ddiogel yn unol â chymhwyster 2382-22 City & Guilds.
Nid yw hwn yn gwrs sy’n mynd i’r afael â gosodiadau trydanol, ond mae’n hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â gosodiadau trydanol.
Mae'r Llawlyfr y 18fed Argraffiad ar gyfer y cwrs wedi cynnwys yn y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.