Peirianneg a’r Diwydiant Gofod

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Diploma Peirianneg EAL hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am yrfa mewn Peirianneg neu mewn maes sy’n berthnasol i’r Gofod. Mae’n eich galluogi i ddysgu’r elfennau sylfaenol a rhoi cynnig ar wahanol grefftau a gyrfaoedd sydd â chysylltiad â pheirianneg a'r diwydiant gofod, gan eich cynorthwyo i weld beth sydd yn eich diddori a beth sy’n fwyaf addas i chi. Cewch y cyfle i brofi mecatroneg, peirianneg electronig, drydanol, cynaliadwyedd a rheoli prosiect peirianneg. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys ystod o sesiynau ymarferol a theori. Byddwch yn ennill cymhwyster Peirianneg a gydnabyddir yn y diwydiant, a chewch y cyfle i gyfranogi mewn ymweliadau i safleoedd yn y diwydiant sy’n ymwneud â’r gofod.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn astudio Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Peirianneg, Technegau Peirianneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Peirianneg, Rheoli Prosiect, CAD a Chynaliadwyedd. Byddwch yn gweithio gyda Rasberry Pi, Arduinos, Lidar a LoraWan.

Gofynion mynediad

4 TGAU Gradd A* - D i gynnwys Mathemateg A* - C, Gwyddoniaeth A*-C a TGAU Saesneg Iaith A*-C. Cymhwyster Peirianneg Lefel 1 addas gyda Gradd A*-C mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth A*-C a Gradd A*-C Iaith Saesneg. Gallai fod angen PPE ar ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys esgidiau blaenau traed dur ac oferôls.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

EECC2F50
L2

Cymhwyster

Engineering and the Space Industry

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE