Myfyrwraig CAVC Eleanor yn adeiladu’r sylfeini ar gyfer gyrfa ym maes adeiladu drwy brofiad gwaith rhithwir gyda Wates
Treuliodd Eleanor Mahoney, myfyrwraig Adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, yr Hanner Tymor diweddar yn cymryd rhan mewn wythnos o brofiad gwaith rhithwir gyda chwmni adeiladu, gwasanaethau eiddo a datblygiadau, Grŵp Wates.