Treuliodd Eleanor Mahoney, myfyrwraig Adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, yr Hanner Tymor diweddar yn cymryd rhan mewn wythnos o brofiad gwaith rhithwir gyda chwmni adeiladu, gwasanaethau eiddo a datblygiadau, Grŵp Wates.
Treuliodd y ferch 17 oed o Gaerdydd ei hwythnos yn cymryd rhan mewn gweithdai ar-lein yn rhoi sylw i CV a chyfweliadau am swyddi. Hefyd dysgodd fwy am y diwydiant adeiladu yn ei gyfanrwydd a'r gwahanol lwybrau gyrfa sydd ar gael.
"Roedden ni’n gweithio mewn grwpiau bach ar gyfer cyflwyniad ar bwnc penodol," meddai Eleanor. "Ar ôl y cyflwyniadau, fe wnaethon nhw ddweud eu bod nhw’n eu hoffi a’u bod eisiau cadw mewn cysylltiad â ni.
"Y peth wnes i ei fwynhau fwyaf oedd gallu cwrdd â phobl eraill a dysgu sut brofiad ydi bod ym myd gwaith ar ôl i chi orffen eich addysg."
Mae Eleanor yn teimlo ei bod wedi elwa'n fawr o’r wythnos o brofiad gwaith gyda Grŵp Wates.
"Rydw i'n teimlo'n fwy hyderus yno i fy hun ac wrth weithio gyda grwpiau," meddai. "Fe ddangosodd i mi beth alla’ i ei wneud i wella fy sgiliau pobl a fy ngwybodaeth am y diwydiant adeiladu.
"Rydw i'n credu bod y profiad wedi fy helpu i sylweddoli bod cymaint o wahanol gyfleoedd o fewn y diwydiant nad oeddwn i’n gwybod amdanyn nhw. Mae hefyd wedi fy helpu i ddeall mwy ynghylch pam ein bod ni’n dysgu beth rydyn ni’n ei wneud ar y cwrs."
Trefnwyd y profiad gwaith gan Craig Wade, Swyddog Profiad Gwaith tîm Gyrfaoedd a Syniadau CAVC. Dywedodd yr Hyfforddwr Gyrfaoedd Cristina Negoescu: "Mae’r wythnos o brofiad gwaith wedi bod yn gyfle gwych i Eleanor. Da iawn hi a diolch i Craig a Grŵp Wates am gynnig profiadau mor anhygoel i'n myfyrwyr ni."