Mae efeilliaid sy'n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro wedi pasio eu hasesiadau ar gyfer y Fyddin ill dau a byddant yn ymuno â'r Gwarchodlu Wrth Gefn.
Cafodd James a Miles Latham, sy'n 18 oed ac o'r Barri, yr uchafswm D*D* yn eu Diploma Lefel 3 yr haf diwethaf, ac maent yn symud ymlaen i'r Diploma Estynedig.
Maent wedi penderfynu cael cymaint o brofiad o fywyd mewn iwnifform â phosibl i'w helpu i ddilyn gyrfa eu breuddwydion gyda Gwasanaethau'r Heddlu. Mae'r ddau hefyd wedi bod yn aelodau allweddol o Lu Cadetiaid Cyfun y Coleg (CCF) a byddant yn parhau i weithredu fel llysgenhadon CCF a darlithwyr gwadd.
Fel rhan o'u hasesiad ar gyfer y Fyddin, dewisodd James a Miles (yn y llun yma mewn digwyddiad CCF cyn COVID-19) y broses ddethol Swyddogion. Roedd hyn yn cynnwys misoedd o gyfweliadau, profion ffitrwydd a phrofion ysgrifenedig – fe wnaethant wirfoddoli i gwblhau asesiad technegol hyd yn oed, er mwyn ehangu'r dewis o unedau'r Fyddin y gallent wasanaethu gyda hwy.
Gwnaeth y ddau ohonynt yn rhagorol yn eu hasesiadau a bydd ganddynt ddewis eang yn awr o unedau'r Fyddin i wasanaethu gyda nhw.
Dywedodd Gary Pedder, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yn CCAF: "Mae wedi bod yn bleser addysgu dynion ifanc mor ymroddedig a phenderfynol. Gyda'r rhinweddau yma, ’sa i'n credu y byddan nhw’n methu rhagori mewn unrhyw beth maen nhw wedi rhoi eu meddwl arno - dymunwn yn dda iawn iddyn nhw!!"
Ychwanegodd Tom Jones, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus arall a Chomander Wrth Gefn CCF yn CCAF: "Roedd y ddau fyfyriwr yn llawn cymhelliant, yn frwd, yn weithgar ac yn manteisio ar bopeth roedd y Cadetiaid yn ei gynnig. Roedden nhw’n croesawu'r diwylliant diogel a chynyddol gan brofi eu hunain fel arweinwyr a mentoriaid i’w cyfoedion. Roedd y ddau ohonyn nhw’n rhagori mewn ymarferion, cymorth cyntaf, crefft maes a chywirdeb anelu - gan fwynhau diwylliant, ffordd o fyw a theulu'r Cadetiaid yn fawr.
"Er nad yw'r Cadetiaid yn adnodd recriwtio i'r Lluoedd Arfog, mae'n sicr yn darparu “golwg ar fywyd” diogel a gwerthfawr; ac fe ddaeth Miles a James “o hyd i gartref” gyda nhw.
Dywedodd mam James a Miles, sef Dawn Latham, Darlithydd Addysg Uwch yn CCAF: "Mae'r parch sydd gan Miles a James at Gary a Tom yn nodedig. Mae Gary a Tom wedi cynghori, cefnogi a chyfeirio Miles a James tuag at yrfa gyffrous tra'n parhau i astudio.
"Mae'r ddau’n edrych ymlaen at ddechrau eu HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng, a fydd yn cynnwys gradd BSc (Anrh) ychwanegol ym Mhrifysgol De Cymru. Ar ôl cwblhau hynny, mae'r ddau’n dymuno astudio ar gyfer gradd meistr mewn gwrthderfysgaeth."