Coleg Caerdydd a'r Fro yn cael ei gydnabod gan arbenigwyr seibr am addysgu o'r safon uchaf

19 Chw 2021

Coleg Caerdydd a'r Fro yw un o'r sefydliadau addysg diweddaraf i ennill Gwobr Aur CyberFirst Schools am ei addysgu seibrddiogelwch o'r safon uchaf.

Mae'r rhaglen CyberFirst Schools yn cael ei gweithredu gan y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol, sy'n rhan o GCHQ. Mae'r rhaglen yn cydnabod ysgolion a cholegau sy’n gallu dangos ymrwymiad i ysbrydoli'r genhedlaeth ddiweddaraf o arbenigwyr seibrddiogelwch a phontio’r bwlch sgiliau seibr.

Mae CyberFirst Schools yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i ymgysylltu â myfyrwyr, fel clybiau codio a gweithgareddau cyfoethogi. Mae CAVC wedi cydnabod ers tro bwysigrwydd cyrsiau seibrddiogelwch ar draws yr holl ddiwydiannau, a bu'r cyn-fyfyriwr Seibrddiogelwch, Kyle Woodward, yn cynrychioli'r DU yn Rownd Derfynol ddiwethaf WorldSkills yn Rwsia yn 2019.

Dywedodd Is-Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Emil Evans: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ennill Gwobr Aur CyberFirst yn ei asesiad diweddar o ddarpariaeth y Coleg. Nid yn unig mae hyn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad ein Hadran Gyfrifiadureg ond hefyd mae'n adlewyrchu gweledigaeth y coleg cyfan o bwysigrwydd Seibrddiogelwch fel diwydiant cyffrous a hanfodol i'n dysgwyr anelu at weithio ynddo.

"Yn ogystal, rydyn ni’n credu bod statws Gwobr Aur y Coleg yn adlewyrchu ein hymrwymiad i barhau i ddatblygu perthynas waith gadarn gyda'n partneriaid ni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a bydd yn rhoi'r llwyfan a'r ysbrydoliaeth i ni i barhau i dyfu a chynnig cwricwlwm Seibrddiogelwch arloesol yn CAVC."