Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymuno â Sgil Cymru a Llywodraeth Cymru i lansio prentisiaeth newydd a rennir sy'n cynnig cyfle i bobl ifanc yng Nghymru gael profiad ymarferol ym myd cynhyrchu ffilm a theledu.
Mae cynhyrchu ffilm a theledu yn ddiwydiant twf mawr i Gymru, ac mae'r prentisiaethau newydd hyn a rennir yn gyfle cyffrous i bobl ifanc gymryd rhan.
Mae CRIW wedi cael ei sefydlu i adlewyrchu natur ddeinamig, hyblyg gwaith llawrydd gan ei fod wrth galon y diwydiant y tu ôl i'r llenni. Mae pob prentis yn cael blwyddyn o brofiad ar draws amrywiaeth o adrannau nid yn unig ar un, ond amrywiaeth o gynyrchiadau, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o safon byd.
Bydd y prentisiaid hefyd yn ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol, gan ennill wrth ddysgu.
Cafodd y rhaglen ei threialu'n llwyddiannus yn 2020, gyda thri phrentis yn gweithio gyda'r tîm ar greu addasiad teledu newydd Fox o War of the Worlds, gyda Daisy Edgar-Jones a Gabriel Byrne yn serennu. Buont yn gweithio i lu o adrannau ar y cynhyrchiad, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phrops.
Hefyd cwblhaodd Tom May, Jake Hatcher a Josh Legge leoliad gyda Vox Pictures ar gynhyrchiad drama newydd i S4C. Bydd y criw o brentisiaid eleni'n dechrau gweithio ar 22ain Chwefror.
Mae Josh wedi cael cynnig swydd lawn amser fel rhedwr gydag Urban Myth, y cwmni tu ôl i War of the Worlds, ac mae Tom a Jake yn cael eu cynnwys ar gyfer eu cynyrchiadau nesaf.
Roedd Tom wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'i dad fel gosodwr ystafelloedd ymolchi wrth chwilio am gyfleoedd i gael ei droed i mewn i'r diwydiant cyfryngau.
"Y rhan orau o'r swydd i mi yn gyffredinol oedd gorfod cyfathrebu ag aelodau eraill tîm y Cyfarwyddwr Cynorthwyol er mwyn trefnu'r gwaith saethu," meddai. "Doedd dim tasg benodol roeddwn i'n ei mwynhau fwyaf.
"Fe fyddwn i'n bendant yn argymell prentisiaeth i unrhyw un sydd eisiau datblygu eu gyrfaoedd yn niwydiant y cyfryngau!"
Roedd Jake Hatcher wedi bod yn astudio cyrsiau Safon Uwch gan gynnwys Dylunio Cynnyrch a Drama, ac fe'i hysbrydolwyd gan y cefndir creadigol yma i chwilio am yrfa yn y cyfryngau.
"Mae ymuno â'r brentisiaeth yma wedi rhoi cyfle gwych i mi ddechrau swydd y gallaf barhau â hi yn y dyfodol," meddai. "Ar ôl siarad gyda llawer o bobl ar y cynhyrchiad, mae wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor lwcus ydw i i fod ar y cynllun a bod yn dechrau gyrfa yn yr oedran yma."
Mwynhaodd Jake deithio i Lundain, bod ar leoliad a chael blas ar fywyd y tu ôl i'r llenni. Mae'n credu bod y brentisiaeth ar y cyd yn ffordd ddelfrydol o gael troed i mewn i ddiwydiant cystadleuol.
"Rydw i'n teimlo bod y llwybr prentisiaeth yn ffordd wych o ddechrau arni yn y diwydiant teledu," esboniodd. "Ochr yn ochr â gweithio ar gynyrchiadau ac ennill profiad mewn swydd, mae gen i ddiploma Lefel 3 erbyn hyn.
"Drwy gydol y flwyddyn rydw i hefyd wedi cael cyngor a chefnogaeth dda gan
weithwyr proffesiynol y diwydiant yn Sgil Cymru. Rydw i wedi cael blwyddyn wych ac fe fyddwn i'n argymell dod yn brentis!"
Roedd Josh Legge wedi bod yn astudio'r Cyfryngau yn y coleg ac yn chwilio am ffyrdd o gael "troed yn nrws" diwydiant y cyfryngau.
"Roeddwn i'n meddwl, drwy ddysgu a gweithio ar yr un pryd, y byddai'n rhoi mwy o gyfle i mi yn ifanc ar gyfer swyddi yn y diwydiant yn y dyfodol," meddai.
Ychwanegodd Josh mai'r peth yr oedd yn ei fwynhau fwyaf oedd yr amrywiaeth enfawr o wahanol bobl mewn gwahanol swyddogaethau y cafodd weithio gyda nhw, gan roi profiad amhrisiadwy iddo. Byddai yntau hefyd yn argymell y brentisiaeth a rennir.
“Roedd yn brofiad anhygoel na fydda' i byth yn ei anghofio gan ei fod wedi fy ngalluogi i roi hwb i fy hyder ac wedi rhoi'r cyfle i mi weithio yn fy ngyrfa ddelfrydol," esboniodd Josh.
Dywedodd Adam Knopf, Pennaeth Cynhyrchu War of the Worlds: “Mae'r gallu i logi prentisiaid ar sail tymor byr a thymor penodol yn golygu bod yr ymgeiswyr yn gallu gweithio ar gynyrchiadau o unrhyw hyd bron a symud rhwng cynyrchiadau yn debyg iawn i fel y byddent yn y farchnad swyddi lawrydd.
“Roedd y tri ymgeisydd a ddaeth atom ni yn asedau gwirioneddol ac yn aelodau gwerthfawr o'r timau wnaethant ymuno â nhw. Roedden nhw i gyd yn awyddus, yn bositif ac yn gweithio'n galed a byddai pob un yn cael ei ystyried ar gyfer rôl ar ein cynyrchiadau ni yn y dyfodol.”
Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru: “Yn Sgil Cymru, rydyn ni wedi bod yn gweithio ar y cynllun arloesol yma gyda'r sector cyfryngau cyffredinol a Choleg Caerdydd a'r Fro ers peth amser. Rydyn ni'n teimlo ein bod ni wedi datblygu'r fformiwla lwyddiannus o gymhwyster blaenllaw a gyflwynir dros 12 mis gyda phrentisiaid yn gweithio ac yn symud o gwmpas o gynhyrchiad i gynhyrchiad, sy'n adlewyrchu gweithio fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiant.
“Mae 2021 yn addo bod yn flwyddyn brysur i Gymru o ran cynhyrchu teledu a ffilm ac mae gallu darparu lleoliadau i ddeg o bobl newydd, i helpu i gyflawni'r addewid hwnnw, yn gyfle cyffrous iawn i Sgil Cymru, i gynyrchiadau ac i brentisiaid.”
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: “Mae'r Diwydiannau Creadigol yn faes twf mor bwysig i Gymru, ac i'r Brifddinas-Ranbarth yn benodol. Dyna pam ein bod ni mor falch o weithio gyda Sgil Cymru, sydd bob amser yn bartner agos i'r Coleg, ar y brentisiaeth newydd arloesol a chyffrous yma rydyn ni'n ei rhannu.
“Mae'r rhaglen newydd yma'n cynnig cyfle gwych i bobl ifanc gyfranogi yn y diwydiant ffilm a theledu am flwyddyn, gan ennill profiad a gwybodaeth amhrisiadwy ar yr un pryd. Dymunaf y gorau i Tom, Jake a Josh wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd delfrydol.”