Canmoliaeth i Katie myfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan Arglwydd Raglaw Gwent am ei rôl allweddol yn ystod y cyfyngiadau symud

26 Chw 2021

Mae Katie Mavroudis-Stephens, myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, wedi cael ei chanmol gan Arglwydd Raglaw Gwent am y rôl mae wedi'i chwarae yn ystod pandemig COVID-19.

Mae Katie, sydd hefyd yn Awyr-Ringyll gyda’r Cadetiaid, wedi cael ei phenodi i rôl Cadet yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2021 gan Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yng Ngwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE. Mae'r rôl, sy'n para am flwyddyn, yn cynnwys mynychu gyda'r Brigadydd, sy'n gweithredu fel cynrychiolydd y Frenhines, nifer o ddigwyddiadau swyddogol, fel digwyddiadau Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Mae'r ferch 17 oed o’r Hengoed yn Awyr-Ringyll gyda Sgwadron 2353 (Ystrad Mynach). Roedd Katie ymhlith y rhai a benodwyd fel Cadet yr Arglwydd Raglaw am y ffordd mae wedi dangos cryfder mawr a chynorthwyo ei chyd-gadetiaid yn ystod y pandemig, gan sicrhau bod gan bob un ohonynt rwydwaith cefnogi yn ei le i helpu gyda'u lles meddyliol.

Mae uchafbwyntiau ei gyrfa fel cadét yn cynnwys mynychu'r Tatŵ Awyr Rhyngwladol Brenhinol a gwersylloedd awyrofod yn y DU, yn ogystal â hyfforddiant tramor yng Nghyprus, Gwlad Belg, Ffrainc a'r Eidal.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Fe hoffen ni i gyd longyfarch Katie ar y gamp anhygoel yma, a fydd yn arwain at brofiadau a fydd yn newid ei bywyd. Yn y Coleg rydyn ni’n credu'n gryf yn lles holl Deulu CCAF, felly mae gweld un o'n dysgwyr ni’n gweithredu fel hyn yn ei bywyd y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn wirioneddol ysbrydoledig."