Newyddion

Datblygiadau newydd, cyflawniadau myfyrwyr a llawer mwy. Dysgwch am ein newyddion diweddaraf.

Gyrfa newydd yn y Flwyddyn Newydd gyda chyrsiau unigryw i oedolion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

Awydd dechrau newydd? Eisiau symud ymlaen neu newid gyrfa yn y Flwyddyn Newydd? Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyrsiau i oedolion sy’n dechrau o fis Ionawr 2024 – ac mae llawer ohonynt am ddim neu â ffioedd isel.

Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro Kay Martin MBE yn ymddeol

Mae Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin MBE, yn ymddeol ar ddiwedd 2023, ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth i addysg yn Ne Cymru.

Coleg Caerdydd a’r Fro yn neidio i’r 3ydd safle yn 100 Uchaf y Mynegai Cydraddoldeb nodedig

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi symud o’r 7fed i’r 3ydd safle ymhlith 100 Uchaf Mynegai Cyflogwyr Mwyaf Cynhwysol nodedig y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.

Coleg Caerdydd a’r Fro yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Beacon 2023-24

Mae gwaith Coleg Caerdydd a’r Fro i ddatblygu modiwlau cwricwlwm anhiliol ar gyfer y sector addysg bellach wedi sicrhau lle iddo yn rowndiau terfynol Gwobrau Beacon, gwobrau mawreddog ledled y DU gan Gymdeithas y Colegau.

Gŵyl Cerdd Dant Cymru yn dod i Goleg Caerdydd a’r Fro

Y penwythnos hwn, bydd bron i 2,000 o gystadleuwyr ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Gerdd Dant fawreddog a gynhelir gan Goleg Caerdydd a’r Fro.

1 ... 8 9 10 11 12 ... 58