Chwaraewr Academi Pêl-fasged CCAF wedi'i ddewis i gynrychioli Dan 18 Prydain Fawr

24 Meh 2024

Onanefe Atufe, sy'n ddysgwr a Chwaraewr Academi Pêl-fasged Coleg Caerdydd a'r Fro, yw'r Cymro cyntaf mewn wyth mlynedd i gael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr. 

Ac yntau newydd ennill 'Chwaraewr Amddiffynnol y Flwyddyn' yng Ngwobrau Chwaraeon CCAF, cafodd Onanefe Atufe ei ddewis y penwythnos hwn i gynrychioli sgwad Pêl-fasged Dan 18 Prydain Fawr, a fydd yn cystadlu yn erbyn Ffrainc, yr Almaen a Tsieina mewn gemau paratoi cyn y Pencampwriaethau Ewropeaidd.

Dywedodd Pennaeth Pêl-fasged, Ieuan Jones: "Mae hyn yn gyflawniad enfawr i'n coleg, i'n hacademi pêl-fasged ac i Bêl-fasged yng Nghymru. Yr hyn sy'n gwneud y cyflawniad yn fwy rhyfeddol fyth yw bod Onanefe newydd gwblhau ei ail dymor llawn o bêl-fasged. Da iawn Nefe, rydym yn falch iawn ohonot!"

Cynhelir y Pencampwriaethau Ewropeaidd ar ddiwedd mis Gorffennaf, ac Onanefe yw'r person cyntaf yng Nghymru i gael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr ers 2006.

Mae detholiad Onanefe yn goron ar flwyddyn wych i Academi Pêl-fasged CCAF a welodd hwy'n ennill eu trydydd teitl Pencampwriaeth Cynghrair Cymru Cymdeithas y Colegau (AoC) yn olynol, yn ogystal â'u buddugoliaeth fel y tîm cyntaf o Gymru i hawlio teitl Pencampwriaethau Chwaraeon Cymdeithas Colegau ledled y DU.

Dysgwch ragor am ein hacademi pêl-fasged a chofrestrwch eich diddordeb yn y gemau cyn tymor nawr: https://cavc.ac.uk/cy/basketballacademy