Coleg Caerdydd a’r Fro yn cyhoeddi nawdd i Tafwyl 2024

9 Gor 2024

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) yn falch o fod yn noddi Tafwyl wrth i’r ŵyl ddychwelyd i Barc Bute yr haf yma.

Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol wedi’i lleoli yng Nghaerdydd sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a’r diwylliant Cymreig – gan gynnig cyfuniad eclectig o gerddoriaeth, trafodaeth, comedi a bwyd, i gyd yng nghanol y ddinas. Bydd yr ŵyl sy’n para am benwythnos yn cael ei chynnal ym Mharc Bute dros ddydd Sadwrn y 13eg a dydd Sul y 14eg o Orffennaf.

Mae Tafwyl yn ŵyl am ddim i bawb ei mwynhau, ac mae CCAF yn gyffrous i fod yn rhan o ymgyrch hirsefydlog y Coleg, #SiaradDysguByw, sy’n cyfieithu fel #SpeakLearnLive.

Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: “Yn CCAF, rydyn ni’n credu yng ngrym partneriaeth i dyfu cyfleoedd a bod o fudd i’n rhanbarth ni, ac wrth gydweithio â Tafwyl rydyn ni’n gobeithio darparu awyrgylch groesawgar sy’n apelio nid yn unig at y gymuned Gymraeg ei hiaith ond hefyd y rhai sy’n dymuno ymwneud â’r Gymraeg am y tro cyntaf.



“Fel coleg mwyaf Cymru rydyn ni’n angerddol dros ein gwlad a’n hiaith – ac rydyn ni’n parhau i hyrwyddo’r Gymraeg drwy gydol y flwyddyn yn fewnol i’n staff a’n dysgwyr ni, ac yn allanol hefyd, gan rannu ein hymrwymiad i gynnig cyfleoedd i bawb siarad, dysgu a byw yn y Gymraeg.”

Mae’r Coleg yn parhau i ymgorffori modiwlau iaith Gymraeg mewn cyrsiau allweddol, gyda’r dysgwyr TAR yn cwblhau rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg Sgiliaith. Hefyd rydyn ni’n darparu gwersi Cymraeg lefel dechreuwyr i’r di-Gymraeg ar draws llu o gyrsiau, o feysydd lle mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth, fel Iechyd a Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, drwodd i ESOL.

I gael gwybod mwy am ddarpariaeth Gymraeg CCAF, gallwch ddod o hyd i fanylion yma, neu dewch draw i’n gweld ni yn y digwyddiad i gael sgwrs ac ychydig o nwyddau am ddim.