Mae pedwar ar bymtheg o bobl ifanc wedi dathlu eu cyflawniadau wrth iddynt raddio o garfan eleni o raglen Interniaeth a Gefnogir arobryn Coleg Caerdydd a’r Fro gyda Dow Silicones UK a Phrifysgol Caerdydd.
Yn ei hwythfed flwyddyn bellach, mae rhaglen Interniaeth a Gefnogir CCAF wedi darparu cefnogaeth i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau sydd angen cymorth ychwanegol i symud tuag at waith ac i mewn i waith. Y cyfartaledd cenedlaethol o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n llwyddo i sicrhau cyflogaeth yw 4.8%, tra bo llwyddiant y rhaglen gydweithredol hon ar draws y rhanbarth wedi gweld 59.8% o interniaid yn cael cyflogaeth barhaus.
Mae’r rhaglen wedi ehangu ei chyrhaeddiad eleni ac mae rhagor o gyfleoedd lleoliadau gwaith wedi bod ar gael. Cyfoethogwyd siwrnai’r interniaid ymhellach gan leoliadau allanol newydd yng Nghwrt Insole a Gwesty’r Parkgate, a bydd y Gwesty’n mynd ati i gynnal ei raglen Interniaeth a Gefnogir ei hun ym mis Medi 2024.
Yn Dow Silicones UK, graddiodd wyth intern gyda balchder o’r rhaglen, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn. Dywedodd Cyfarwyddwr Safle Dow Silicones yn y Barri, Andrew Laney, wrth y graddedigion: “Dyma un o’r cyfleusterau gweithgynhyrchu siliconau mwyaf ar y blaned, ac rydych chi bellach yn rhan o weithlu byd-eang Dow o 37,000 o bobl. Llongyfarchiadau, ac ewch yn eich blaen gyda’r balchder hwn.”
Dywedodd Kim Eversham, Rheolwr Cyswllt Busnes ac Ansawdd On-SITE yn Dow Silicones: “Diolch i’ch gwahanol safbwyntiau chi a’ch ffyrdd o weithio, rydyn ni wedi cyrraedd cerrig milltir arwyddocaol, gan gynnwys Dow Silicones yn dod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni wedi dod yn well hyfforddwyr, rydyn ni wedi dod yn well gwrandawyr, rydyn ni wedi dod yn well arweinwyr, rydyn ni wedi dod yn well pobl, rydyn ni wedi dod yn well safle, ac rydw i'n meddwl ein bod ni wedi dod yn well cyflogwr.”
Lansiodd CCAF ei raglen Interniaeth a Gefnogir gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd wyth mlynedd yn ôl. Eleni graddiodd 11 o interniaid.
Dywedodd y Profost a’r Dirprwy Is-Ganghellor, Damian Walford Davies: “Rydyn ni’n falch iawn o fod y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i ymgysylltu â’r Rhaglen Interniaeth a Gefnogir, Project Search yn wreiddiol, ac mae gennym ni hanes maith â hi bellach. Mae'r rhaglen wedi dysgu pawb sy'n gysylltiedig â hi bod posib i’n sefydliadau ni, gyda'r cymorth cywir, fod yn llefydd cynhwysol ar gyfer pobl anabl a / neu awtistig.
“Dyma mae’r rhaglen yn ei roi ar waith, ynghyd â gwella sgiliau myfyrwyr a’u helpu i sicrhau a chynnal cyflogaeth. Mae’r prosiect yn hawlio’i le gyda balchder yn ein cenhadaeth ddinesig a’n gweithgareddau ymchwil ni. Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan ohono.”
Dywedodd Sian Clarke, Rheolwr Gweithrediadau’r Asiantaeth Cyflogaeth a Gefnogir ELITE: “Roedd yn seremoni raddio wych ac mae pawb yn ELITE mor falch o gyflawniadau pob intern ar y rhaglen eleni. Roedd yn wych eu gweld nhw wedi’u grymuso ac yn hapus i sefyll i fyny o flaen y gynulleidfa a siarad am eu profiadau, a dod yn fodelau rôl cadarnhaol i interniaid y dyfodol”.
Dywedodd Is Bennaeth Datblygu Busnes Coleg Caerdydd a’r Fro, James Scorey: “Newid bywydau drwy ddysgu yw ein pwrpas ni, ac mae’n fraint gweld y newid yma yn uniongyrchol. Rydyn ni mor ddiolchgar am gael partneriaid busnes eithriadol fel Dow Silicones a Phrifysgol Caerdydd sy’n arwain y ffordd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yng Nghymru.”
Mae’r rhaglen Interniaeth a Gefnogir On-SITE yn dyst i bŵer dysgu cynhwysol a’r cyflawniadau rhyfeddol y mae modd eu gwireddu pan fydd partneriaid yn cydweithio i gefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r rhaglenni hyn yn sail i ymrwymiad ein cenhadaeth ddinesig ni i hybu neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru a thu hwnt.