Dysgwyr Creadigol CCAF yn cael cryn lwyddiant yn Eisteddfod Celf a Chrefft Caerdydd a’r Fro yr Urdd

26 Meh 2024

Llongyfarchiadau i bump o’n dysgwyr Creadigol a enillodd wobrau ym mhob un o dri chategori gwahanol yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon. 

Gan arddangos eu doniau arbennig, roedd dysgwyr CCAF, sef Tom Delamotte, Siriol Ap Rhys, Jasmine Downes, Ellie Dibble a Mckenna Pace wedi syfrdanu’r beirniaid pan gyflwynwyd eu gweithiau celf eu hunain i feirniaid Eisteddfod yr Urdd yn ôl ym mis Mai. 

Roedd Tom Delamotte, sef dysgwr sydd ar ei flwyddyn 1af o’r cwrs Dylunio 3D, wedi ennill y wobr 1af yn y categori gwaith 3D gyda’i fodel Lego o Gastell Caerdydd:

Fel dysgwr ar y cwrs Celf UG, enillodd Siriol Ap Rhys y wobr 1af yn y categori Print gyda’r darn ffantastig hwn o gelfyddyd a ddangosir isod:

Roedd Jasmine Downes, sef dysgwr Celf a Dylunio Lefel 1, wedi ennill y wobr 1af yn y categori Serameg gyda’r darn diddorol hwn: 

Roedd Ellie Dibble, sef dysgwr Celf a Dylunio Lefel 1, wedi ennill yr 2il wobr yn y categori Serameg gyda darn a ysbrydolwyd gan fywyd môr:

Ac yn olaf ond yr un mor bwysig, daeth Mckenna Pace, sef dysgwr Celf a Dylunio Lefel 1, yn 3ydd yn y categori Serameg:

Dywedodd Kristen Harries, Pennaeth y Diwydiannau Creadigol: “Rydw i mor falch o gael dathlu’r myfyrwyr Creadigol talentog a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth gelf yn Eisteddfod Celf a Chrefft Caerdydd a’r Fro a drefnwyd trwy’r Urdd. Mae creadigrwydd ein myfyrwyr yn disgleirio’n llachar, gan baentio tapestri byw o ddiwylliant Cymru a’i hiaith. Mae eu cyflawniadau artistig yn destun cryn falchder i mi”  

Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr sydd wedi’u gwahodd i seremoni wobrwyo ar 5ed Gorffennaf yng Nghaerdydd, i dderbyn eu gwobrau a dathlu eu cyflawniadau.