Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i unigolion sydd â diddordeb mewn chwaraeon ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth i lefel uwch. Bydd yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i ystod o gyrsiau eraill, gan gynnwys Blwyddyn 2 a sectorau perthnasol eraill.
Mae gan y cwrs gyfuniad o ddarpariaeth ddamcaniaethol ac ymarferol. Mae’n hanfodol fod dysgwyr yn cymryd rhan yn holl agweddau'r ddarpariaeth.
Mae’r cwrs yn gyfwerth ag 1.5 cymhwyster Safon Uwch.
Bydd y cwrs yn cynnwys 3 uned orfodol, sef:
Mae 6 uned ddewisol arall y mae’n rhaid eu cwblhau, gall y rhain gynnwys:
Mynediad at y Tŷ Chwaraeon sy’n cynnwys neuadd chwaraeon aml-bwrpas, trac athletau, Caeau 3G, a stiwdio ffitrwydd a champfa aml-bwrpas.
5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg Iaith a/neu Fathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Lefel 2 perthnasol mewn Chwaraeon
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall dysgwyr symud ymlaen i Flwyddyn 2 diploma estynedig mewn Chwaraeon. Bydd y cymhwyster yn cefnogi dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i Addysg Uwch, gan greu cyfleoedd cyflogaeth yn y pen draw. Ar ben hynny, bydd dysgwyr yn gallu ystyried cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau.