Mae'r cwrs hwn wedi ei fwriadu ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau parhau â'u hastudiaethau academaidd ochr yn ochr â'u hymrwymiadau perfformiad chwaraeon rhanbarthol/elitaidd. Bydd ymgysylltu rheolaidd a chwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn dyfnhau eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o beth sydd ei angen i ddod yn berfformiwr chwaraeon elitaidd, tra'n cael effaith gadarnhaol ac uniongyrchol ar eu perfformiadau eu hunain. Bydd model dysgu cyfunol yn cael ei ddefnyddio fel bod modd i ddysgwyr ymgysylltu'n llawn yn y broses ddysgu, o'n campws chwaraeon neu ar-lein rywle yn y byd. Mae'r ehangder yng nghynnwys dewisol y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ehangu eu cyfleoedd dilyniant, i ystod o gyrsiau addysg uwch neu'n syth i waith.
Modiwlau Blwyddyn 1:
• A –Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol (90 GLH)
• B – Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (90 GLH)
• C3 – Perfformiwr Chwaraeon Proffesiynol (180 GLH)
• 4 – Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol (60 GLH)
• 23 – Seicoleg ar gyfer Perfformiad Chwaraeon Proffesiynol (60 GLH)
• 11 – Rheolau, Rheoliadau a Gweinyddu mewn Chwaraeon (60 GLH)
5 TGAU A* - C gan gynnwys Iaith Saesneg a/neu Gymraeg a/neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 mewn Chwaraeon
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wnes i ddim mwynhau’r ysgol gymaint â hynny, felly roedd symud draw i’r Coleg yn galluogi i mi gael dechrau newydd. Dewisais y cwrs hwn oherwydd y cyfleusterau gwych sydd yma, a’r addysgu rhagorol. Mae astudio Chwaraeon yn llawn amser wedi rhoi’r cyfle i mi ganolbwyntio ar rywbeth rwy’n meddwl cryn dipyn amdano yn hytrach na threulio fy amser ar bynciau nad oedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Mae’r gymysgedd o elfennau theori ac ymarferol wedi helpu i wella fy ngwybodaeth am y pwnc ac i wella fy mherfformiad ar y cae hefyd.
Ar ôl y dystysgrif estynedig un flwyddyn hon, gall myfyrwyr symud ymlaen at y diploma neu ddiploma estynedig mewn Rhagoriaeth Chwaraeon a Pherfformiad.