Dewch yn Hyfforddwr Personol Lefel 3 gyda'n cymhwyster CIMSPA achrededig Diploma Lefel 2 mewn Hyfforddiant Personol (Ymarferydd). Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol yw ein cymhwyster mwyaf poblogaidd.
Mae'r cwrs yn rhoi’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i ddarparu sesiynau hyfforddiant un i un a sesiynau hyfforddiant grŵp, ac mae’n helpu gyda dulliau busnes a marchnata sy’n eich galluogi i dyfu sylfaen cleientiaid hyfforddiant personol llwyddiannus.
Mae'r unedau astudio yn cynnwys y canlynol:
Mae cyfleusterau addysgu yn hwyluso elfennau theori ac ymarferol ar gampws CISC.
Wedi cwblhau cwrs Hyfforddwr Gym Lefel 2 yn llwyddiannus.
Wnes i ddim mwynhau’r ysgol gymaint â hynny, felly roedd symud draw i’r Coleg yn galluogi i mi gael dechrau newydd. Dewisais y cwrs hwn oherwydd y cyfleusterau gwych sydd yma, a’r addysgu rhagorol. Mae astudio Chwaraeon yn llawn amser wedi rhoi’r cyfle i mi ganolbwyntio ar rywbeth rwy’n meddwl cryn dipyn amdano yn hytrach na threulio fy amser ar bynciau nad oedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Mae’r gymysgedd o elfennau theori ac ymarferol wedi helpu i wella fy ngwybodaeth am y pwnc ac i wella fy mherfformiad ar y cae hefyd.