Hyfforddwr Ffitrwydd

L2 Lefel 2
Rhan Amser
5 Hydref 2026 — 16 Rhagfyr 2026
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster Lefel 2 hwn yn berffaith i'r sawl sy'n frwd dros chwaraeon ac ymarfer corff ac sy'n dymuno dechrau gyrfa yn y maes ffitrwydd. Cewch ennill cymhwyster proffesiynol, ac mae llawer o ddysgwyr yn mynd yn eu blaen i'r cwrs Hyfforddwr Personol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Gall pynciau gynnwys:

· Gwybodaeth am ymarfer corff a ffitrwydd
· Hyfforddwr campfa
· Cyfathrebu i hyfforddwyr ffitrwydd
· Anatomi a Ffisioleg

Dulliau asesu

Cwestiynau a thaflenni gwaith i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth.
Astudiaethau achos i gymhwyso cysyniadau cryfder a chyflyru.
Cynlluniau sesiwn i asesu cynllunio a chyflwyno rhaglenni.
Arsylwadau ymarferol i werthuso sgiliau hyfforddi, technegau ac arferion diogel.
Gweithgareddau gwerthuso i gefnogi myfyrio, adborth a gwella parhaus.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £50.23

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £149.17

Gofynion mynediad

Nid oes cymwysterau mynediad ffurfiol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

5 Hydref 2026

Dyddiad gorffen

16 Rhagfyr 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

SPCC2P11AA
L2

Cymhwyster

Fitness Instructor

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

8,000

Mae gan Alwedigaethau Chwaraeon weithlu cynyddol o dros 8,000 gydag amcangyfrif o 1,600 o swyddi ychwanegol erbyn 2026 ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd. (Lightcast, 2022).

Cymhwyster Hyfforddwr Personol Lefel 3.

Lleoliadau

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd,
Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ