Mae ein cymhwyster Diploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon (QCF) wedi'i gynllunio'n benodol i roi dealltwriaeth eang i unigolion o Astudiaethau Chwaraeon, tra'n rhoi gwybodaeth fanwl am bwysigrwydd chwaraeon ac ymarfer corff yn y gymdeithas fodern. Bydd dysgwyr yn astudio yn ein Campws Chwaraeon Rhyngwladol yng Nghaerdydd, ac yn cael cyfle i roi eu sgiliau a'u gwybodaeth ar waith mewn lleoliad chwaraeon ymarferol tra'n gweithio tuag at gymwysterau ychwanegol eraill a fydd yn gwella eu rhagolygon gyrfa yn y diwydiant ymhellach.
Rydym yn cael defnyddio caeau 4G allanol, campfa dan do yn ogystal â chwrt dan do sy’n ein galluogi i gymryd rhan mewn chwaraeon fel pêl-fasged, pêl-rwyd, pêl-foli, badminton etc.
(Wrth ddefnyddio’r caeau 4G allanol, rhaid gwisgo esgidiau addas).
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys nifer o unedau, sy’n gymysgedd o waith theori ac ymarferol.
Gallai unedau’r Diploma Lefel 2 gynnwys:
Bydd disgwyl i chi hefyd ymgymryd â naill ai Sgiliau Hanfodol (2 awr yr wythnos) neu ailsefyll TGAU, yn dibynnu ar raddau wrth gofrestru. Yn ogystal â hyn bydd disgwyl i chi gwblhau eich E-Diwtorial ar yr amserlen (1 awr yr wythnos).
Mae ymgysylltu ymarferol yn orfodol. Mae'n bosib y cynhelir sesiynau profi ffitrwydd cyn cofrestru.
4 TGAU Gradd A*-D. Saesneg Iaith a/ neu Fathemateg (neu gyfwerth ) yn ddymunol neu Ddiploma Lefel 1 perthnasol mewn Chwaraeon .
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd cwblhau Lefel 2 yn eich galluogi i symud ymlaen i BTEC Chwaraeon Lefel 3.