Nod y cymhwyster hwn yw darparu'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar ddysgwyr sydd â diddordeb mewn ffitrwydd, iechyd a gweithgareddau campfa i'w galluogi i ddilyn gyrfa fel Hyfforddwr Ffitrwydd yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich caniatáu i symud ymlaen i'r cymhwyster Hyfforddiant Personol Lefel 3 (Ymarferydd). Yn ogystal â'r dystysgrif mewn Hyfforddi Campfa, byddwch hefyd yn cyflawni Dyfarniad lefel 2 YMCA mewn Ymgysylltu Plant a Phobl Ifanc mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol a Thystysgrif Lefel 2 YMCA mewn Arwain Ymarfer Corff Grŵp: Hyfforddiant Cylchol.
Bydd gofyn i chi brynu esgidiau pêl-droed wedi’u mowldio cyn cychwyn y cwrs hwn, er mwyn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, sy’n rhan allweddol o’r cwrs. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda'r costau hyn. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer:
Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys:
Bydd gofyn i chi brynu esgidiau pêl-droed wedi’u mowldio cyn dechrau ar y cwrs, er mwyn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, sy’n rhan allweddol o’r cwrs. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol gyda’r costau hyn. Mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.
Bydd dysgwyr yn defnyddio'r cyfleusterau gwych yn CISC a’r Tŷ Chwaraeon dros gyfnod y cwrs. Cyfleusterau ac offer campfa ar gael ar gyfer holl agweddau ymarferol y cwrs.
4 TGAU Gradd A*-D- Saesneg Iaith a/ neu Fathemateg (neu gyfwerth ) yn ddymunol neu Ddiploma Lefel 1 perthnasol mewn Chwaraeon neu brofiad o d diwydiant perthnasol .
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Matt a Wes wedi fy helpu i ddatblygu fy mwynhad o ffitrwydd yn yrfa a hobi llawn amser. Maent wedi helpu i droi fy angerdd a’m brwdfrydedd yn fusnes llwyddiannus lle gallaf weithio’n gyfforddus ac yn broffesiynol gyda chleientiaid o bob math. Hoffwn ddiolch i’r ddau am fy nghefnogi drwy gydol yr amser, ac am fy helpu i fod yr Hyfforddwr Personol ydw i heddiw.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich caniatáu i symud ymlaen i'r cymhwyster Hyfforddiant Personol Lefel 3 (Ymarferydd).