Mae’r cymhwyster BTEC Lefel 1 hwn wedi’i gynllunio i helpu dysgwyr i ddeall y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio o fewn gwahanol sectorau o’r diwydiant Chwaraeon a Hamdden. Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden egnïol, gan gynnwys chwaraeon maes a sesiynau yn y gampfa.
Cewch gyfle i gynrychioli’r coleg drwy ymuno â’n hacademïau, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, pêl-fasged a phêl-rwyd.
Mae cyfleusterau chwaraeon campws chwaraeon rhyngwladol Caerdydd ar gael i ni. Mae'r rhain yn cynnwys campfa llawn offer, cae 3G a chaeau awyr agored eraill. Rydym hefyd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau ar draws y ffordd yn Nhŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd.
Bydd gofyn i chi brynu esgidiau pêl-droed wedi’u mowldio cyn dechrau ar y cwrs hwn, er mwyn gallu cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, sy’n rhan allweddol o’r cwrs. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda'r costau hyn. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Gallai unedau’r Diploma Lefel 1 gynnwys:
3 TGAU A*- E
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs hwn yn aml yn symud ymlaen i’r diploma Lefel 2 mewn Chwaraeon. Llwybr arall y bydd ein myfyrwyr yn ei ddewis yw’r cwrs Lefel 2 Iechyd, Ffitrwydd a Llesiant ar gyfer y rhai sydd eisiau dilyn llwybr ychydig yn wahanol ac sydd â diddordeb mewn hyfforddi mewn campfa a hyfforddiant personol. Gall symud ymlaen i astudiaethau Chwaraeon Lefel 3 arwain at astudio cyrsiau chwaraeon yn y brifysgol, gan gynnwys adsefydlu chwaraeon a thylino, a chyfleoedd pellach yn y sector chwaraeon - gan gynnwys y sector hyfforddi.