Croeso i dudalen wybodaeth Cymorth Ariannol i ddysgwyr ar gyrsiau Addysg Bellach. Mae'r dudalen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i benderfynu a ydych yn gymwys i gael unrhyw gyllid gan y coleg a sefydliadau eraill. Gall y tîm Cyllid Myfyrwyr hefyd roi gwybod i chi am unrhyw fath o gyllid y gallech fod yn gymwys i'w gael, i'ch cefnogi'n ariannol drwy eich astudiaethau. Gellir dod o hyd i ni yn y dderbynfa ar ein campws Heol Colcot ac yn y swyddfa Gwasanaethau Myfyrwyr ar ein campws Heol Dumballs. Gallwch hefyd anfon e-bost atom i: fcfqueries@cavc.ac.uk
Mae'r FCF yn arian a roddir i'r coleg gan Lywodraeth Cymru y gallwn ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr mewn nifer o ffyrdd. I fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i chi fod yn ddysgwr llawn amser sy'n astudio o leiaf 12 awr yr wythnos; rhaid i chi fod ar gwrs addysg bellach - ni allwn gefnogi dysgwyr ar gwrs addysg uwch; ni ddylai fod gennych unrhyw gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y DU, ac mae'n rhaid eich bod wedi bod yn y wlad am dair blynedd cyn dyddiad dechrau'r cwrs. Mae dyfarniadau FCF yn ddewisol ac nid yn hawl i unrhyw un. Mae'r cronfeydd yn gyfyngedig ac nid oes unrhyw ddyfarniadau wedi'u sicrha.
Mae meini prawf cymhwysedd gwahanol yn dibynnu ar eich oed, eich cwrs ac incwm eich cartref, gweler dadansoddiad isod:
Oed | Dan 19 oed | Dros 19 oed |
Cronfa | ||
Prydau | Ie - yn unol â meini prawf cymhwysedd Llywodraeth Cymru | Amgylchiadau eithriadol yn unig |
Teithio | Ie - Dysgwyr Llawn Amser sy'n byw 3+ milltir i ffwrdd | Ie - Dysgwyr Llawn Amser sy'n byw 3+ milltir i ffwrdd ac yn derbyn GDLlC |
Petrol | Nid ydym yn darparu lwfans petrol i ddysgwyr dan 19 oed | Ie - Dysgwyr Llawn Amser sy'n byw 3+ milltir i ffwrdd ac yn derbyn GDLlC |
Pecyn | Ie - Dysgwyr Llawn Amser sy'n derbyn LCA | Ie - Dysgwyr Llawn Amser sy'n derbyn GDLlC |
Gofal Plant | Ie - Dysgwyr Llawn Amser gydag incwm y cartref yn is na 25,000, darperir arian ar gyfer un plentyn yn unig | |
Byw | Ie - gyda thystiolaeth o fod yng ngofal Awdurdod Lleol, rhywun sy'n gadael gofal neu Ofalwr Ifanc | Ie - gyda thystiolaeth o fod yn Ofalwr Ifanc neu'n unigolyn sy'n gadael gofal |
Ffioedd cofrestru | Ie - Dysgwyr Llawn Amser sy'n derbyn LCA | Ie - Dysgwyr Llawn Amser sy'n derbyn GDLlC |
I wneud cais am un neu fwy o'r mathau uchod o gymorth, cliciwch YMA a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y dudalen – dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn, hyd yn oed os hoffech gael eich ystyried am fwy nag un math o gymorth ariannol o'r tabl uchod. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y gwahanol fathau o gymorth drwy glicio ar y dolenni isod.
Beth yw LCA?
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn daliad wythnosol o £40 i helpu myfyrwyr 16-18 oed gyda chostau addysg bellach. Gwneir taliadau bob pythefnos os ydych yn bodloni gofynion presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad y coleg.
Gwirio Cymhwysedd
Gallech fod yn gymwys i gael LCA os gallwch ateb 'byddaf/ydw/ydy/ie' i'r holl gwestiynau canlynol:
Neu
A oes pobl ifanc eraill yn eich cartref mewn addysg bellach amser llawn sy'n gymwys i gael Budd-dal Plant a bod incwm eich cartref yn £23,077 neu lai?
Neu
Sut i wneud cais?
Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais a'i hanfon i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae nodiadau canllaw i'ch helpu i lenwi'r ffurflen.
Gallwch lawrlwytho ac argraffu'r rhain gan ddilyn y dolenni isod:
Ffurflen gais LCA 23/34 - Cymraeg
Nodiadau cais LCA 23/24 - Cymraeg
Ffurflen gais LCA 22/23 - Cymraeg
Nodiadau cais LCA 22/23 - Cymraeg
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ôl-daliadau, rhaid i chi wneud cais o fewn 13 wythnos o ddechrau eich cwrs. Rhaid i chi hefyd arwyddo eich Cytundeb EMA o fewn yr un cyfnod o 13 wythnos. Os nad oes gennych fynediad at beiriant argraffu, gallwch gasglu pecyn cais o unrhyw un o'n campysau. Gallwch wneud cais cyn i chi gofrestru. Rydym yn argymell eich bod yn anfon eich ffurflen gais LCA cyn gynted â phosibl.
Os dyfarnwyd LCA i chi gyda'ch Sefydliad Blaenorol, neu os oeddech yn ei dderbyn yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn 2022-2023
Fel myfyriwr sy'n dychwelyd, nid yw'n ofynnol i chi lenwi ffurflen gais newydd gan y byddwch yn cael eich trosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd nesaf. Byddai llofnodi eich Cytundeb Dysgu LCA yn gyfystyr â chais ffurfiol.
Cliciwch yma i lofnodi eich Cytundeb Dysgu LCA ar gyfer 23/24
Cliciwch yma i lofnodi eich Cytundeb Dysgu LCA ar gyfer 22/23
Cliciwch yma i weld amserlen dalu'r LCA ar gyfer 2022-2023
Beth yw GDLlC?
Mae'n darparu cyllid i helpu gyda chostau eich addysg os ydych yn 19 oed neu'n hŷn. Os ydych yn astudio'n llawn amser gallech gael taliadau o hyd at £1,500 y flwyddyn neu, os ydych yn astudio'n rhan amser, gallech gael hyd at £750 y flwyddyn. Nid yw'r cyllid hwn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gallech fod eisoes yn eu derbyn.
Gwirio cymhwysedd
Mae angen i chi fodloni'r gofynion canlynol i gael y grant:
Oed
I gael y grant hwn mae'n rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn, felly ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 mae'n rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn ar 1 Medi 2022.
Cwrs
Rhaid i chi fod yn astudio cwrs cymwys. Mae cyrsiau cymwys yn cynnwys: • TGAU • Lefelau 'U' neu 'UG' • BTEC, GNVQ, NVQ • Cyrsiau Sgiliau Sylfaenol • Sgiliau Byw'n Annibynnol - Nid yw cyrsiau ar lefel 4 ac uwch yn gymwys. Gall eich ysgol neu goleg ddweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys.
Cenedligrwydd a Phreswylio
Os ydych yn ddinesydd y DU sy'n byw yng Nghymru, gallech fod yn gymwys i gael GDLlC Addysg Bellach. Os nad ydych yn ddinesydd y DU, efallai y byddwch yn dal yn gymwys. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Sut i wneud cais?
Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais a'i hanfon i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae nodiadau canllaw i'ch helpu i lenwi'r ffurflen.
Gallwch lawrlwytho ac argraffu'r rhain gan ddilyn y dolenni isod:
Ffurflen gais GDLlC 23/24 - Cymraeg
Nodiadau cais GDLlC 23/24- Cymraeg
Ffurflen gais GDLlC 22/23 - Cymraeg
Nodiadau cais GDLlC 22/23 - Cymraeg
Os nad oes gennych fynediad at beiriant argraffu, gallwch gasglu pecyn cais o unrhyw un o'n campysau. Gallwch wneud cais cyn i chi gofrestru. Rydym yn argymell eich bod yn anfon eich ffurflen gais GDLlC cyn gynted â phosibl.
Os dyfarnwyd GDLlC i chi gyda'ch sefydliad blaenorol, neu os oeddech wedi'i gael yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn 2021-2022.
Fel myfyriwr sy'n dychwelyd, nid yw'n ofynnol i chi lenwi ffurflen gais newydd gan y byddwch yn cael eich trosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd nesaf. Byddai llofnodi eich Cytundeb Dysgu GDLlC yn gweithredu fel cais ffurfiol.
Cliciwch yma i lofnodi eich Cytundeb Dysgu GDLlC ar gyfer 23/24
Cliciwch yma i lofnodi eich Cytundeb Dysgu GDLlC ar gyfer 22/23
Rhaid i’r holl ddysgwyr sy’n dal i feddu ar liniadur ei ddychwelyd i un o’r Canolfannau Llwyddiant ar unwaith.
Bydd dysgwyr nawr yn cael mwy o fynediad at liniadur o fewn Canolfannau Llwyddiant ar draws pob safle. Er mwyn benthyca gliniadur, bydd angen i ddysgwyr fynd at y ddesg yn un o’n Canolfannau Llwyddiant a’i logi. Rhaid defnyddio’r gliniadur yn y Ganolfan Llwyddiant, a rhaid ei ddychwelyd cyn gadael.
Efallai y bydd dysgwyr mewn caledi ariannol yn gallu cael cymorth gan asiantaethau neu sefydliadau allanol eraill. Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o wybodaeth:
Ymddiriedolaeth y Tywysog - Gall Gwobrau Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog ddarparu cymorth gyda ffioedd cyrsiau, yn ogystal â chymorth i brynu unrhyw offer neu wisg hanfodol y gallai fod ei hangen arnoch ar gyfer eich cwrs. CLICIWCH YMA i fynd i'w tudalen gyswllt a gwneud ymholiad heddiw.
Turn2us - https://www.turn2us.org.uk/ - elusen genedlaethol sy'n rhoi cymorth ymarferol i bobl sy'n cael trafferthion ariannol
Gwefan y Llywodraeth - https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf - Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu had-dalu.
Budd-dal Plant – https://www.gov.uk/child-benefit - mae dysgwyr amser llawn hyd at 20 oed yn dal yn gymwys i gael Budd-dal Plant, bydd angen prawf o statws myfyriwr a gellir gofyn amdano drwy lenwi'r ffurflen hon.
Tîm Lles Coleg Caerdydd a’r Fro – os oes angen unrhyw gymorth arnoch ar wahân i'r hyn a amlinellir uchod, gallwch gysylltu â Thîm Lles y coleg; gallant roi gwybod i chi am unrhyw asiantaethau allanol a allai eich helpu, yn ogystal â darparu cymorth emosiynol tymor byr a chymorth ymarferol fel talebau banc bwyd neu gardiau crafu teithio – gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bostio learnerfeelsafeteam@cavc.ac.uk.