Os ydych yn gwneud cais am Dystysgrif Eithrio Myfyrwyr ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, sylwer na ellir cyflenwi’r tystysgrifau hyn tan hanner tymor mis Hydref. Mae hyn yn cyd-fynd â chyfnodau prawf myfyrwyr.
Os ydych angen tystiolaeth eich bod yn fyfyriwr amser llawn, gallwn roi tystiolaeth o’r fath ichi ar gais.
Nid yw dysgwyr rhan-amser yn gymwys i gael gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Er mwyn ichi gael eich ystyried yn fyfyriwr amser llawn yn ardal Caerdydd:
Neu:
Os ydych yn astudio cymhwyster hyd at Safon Uwch (Lefel 3) ac os ydych dan 20 oed:
Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â’ch cymhwystra ar gyfer cynghorau eraill, cysylltwch â swyddfa eich cyngor lleol yma.
I wneud cais am Dystysgrif Eithrio Myfyrwyr, cliciwch ar y ddolen isod a llenwch y ffurflen.
Cliciwch yma i wneud cais am dystysgrif.
Bydd eich Tystysgrif Eithrio Myfyrwyr yn cael ei hanfon atoch trwy e-bost o fewn pythefnos i ddyddiad eich cais.