Cronfeydd cyfyngedig yn unig sydd ar gael; cynghorir pob myfyriwr i wneud cais cynnar; ni ellir gwarantu unrhyw gyllid ac mae cyfyngiad cyllid o £63 y diwrnod am uchafswm o 3 diwrnod yr wythnos. Bydd angen i’r dysgwr dalu unrhyw gostau ychwanegol yn uniongyrchol i'r darparwr gofal plant.
Caiff ceisiadau eu prosesu yn ôl y drefn y derbyniwyd y ceisiadau. Os na fydd y cais wedi cael ei gwblhau’n gywir ni chaiff ei ystyried.
Rhoddir blaenoriaeth i’r myfyrwyr a oedd yn derbyn cyllid gofal plant yn y flwyddyn academaidd 2024-2025 ac sy’n parhau â’u hastudiaethau yn 2025-2026.
Ni ddylech fod ag unrhyw gyfyngiad ar eich hawl i aros yn y DU a rhaid ichi fod wedi bod yn y wlad ers 3 blynedd cyn dyddiad dechrau eich cwrs.
Gall y coleg gefnogi un myfyriwr ar gyfer pob aelwyd yn unig (cysylltwch â ni cyn gwneud cais os oes angen cyllid arnoch ar gyfer efeilliaid arnoch).
Gwneir cynigion cyllid i’r myfyrwyr hynny sydd â chynigion cwrs amodol neu ddiamod yn unig.
Mae ceisiadau a wneir yn gyfrinachol. Gofynnir ichi beidio â thrafod eich cais a’i ganlyniad gyda myfyrwyr eraill. Ni fydd y Coleg yn ailystyried unrhyw un o’i benderfyniadau ar sail cymariaethau ar lafar rhwng myfyrwyr.
Os dyfernir cymorth i chi gyda’ch gofal plant, gallwch ddewis darparwr gofal plant o’ch dewis chi, cyn belled â bod y darparwr gofal plant wedi cofrestru gyda’r Awdurdod Lleol. Os ydych chi wedi’ch lleoli ar Gampws Heol Colcot, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio’r feithrinfa sydd ar y safle.
Telir yr holl ddarparwyr gofal plant gan BACS, mewn ôl-daliadau fesul mis.
Mae taliad ar gyfer gofal plant yn amodol ar fyfyrwyr yn cyflawni lleiafswm gofyniad presenoldeb o 90% yn y Coleg, a bydd hyn yn cael ei fonitro’n rheolaidd. Os bydd myfyrwyr yn disgyn o dan y lefel ofynnol hon o bresenoldeb, bydd eu cyllid gofal plant mewn perygl o gael ei dynnu’n ôl.
Y coleg fydd yn penderfynu ar y swm o gyllid a ddyfernir i bob myfyriwr. Mae gan fyfyrwyr hawl i un asesiad yn unig ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
Os ydych yn cael cymorth gyda’ch gofal plant ac yn peidio â glynu at yr amodau a amlinellir yn y contract, efallai y bydd gofyn ichi dalu yr holl gyllid, neu ran o’r cyllid a dalwyd, yn ôl.