Er mwyn bod yn gymwys i gael lwfans prydau bwyd, rhaid i ddysgwyr 16-18 oed – neu eu rhieni – fod yn derbyn un o'r canlynol:
Mae disgyblion sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cymorth Cyflogaeth sy'n Gysylltiedig ag Incwm yn ôl eu hawl eu hunain hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Ni fyddwch yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol a bod eich incwm net blynyddol o enillion cyflogedig neu hunangyflogedig dros £7,400.
Bydd manylion am sut i gael gafael ar y lwfans prydau bwyd yn cael eu rhoi i ddysgwyr cymwys ar ôl i’w cais gael ei gymeradwyo. Gall dysgwyr 19+ oed fod yn gymwys i gael lwfans prydau bwyd dan amgylchiadau o galedi eithafol – siaradwch â'r Gwasanaethau Myfyrwyr os credwch fod hyn yn berthnasol i chi.