Mae rhai cyrsiau yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr brynu eitemau penodol er mwyn iddynt gwblhau eu cwrs yn llwyddiannus – gall hyn amrywio o wisg a dillad diogelwch, i becynnau trin gwallt, harddwch neu arlwyo llawn – a gall gostio hyd at £600 yn dibynnu ar eich dewis cwrs; gall dysgwyr sy'n cael LCA neu GDLlC o bosibl gael y costau hyn wedi’u talu’n gyfan gwbl/ yn rhannol gan y Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Rhoddir rhagor o wybodaeth am sut mae hyn yn gweithio i ddysgwyr cymwys ar ôl i’w cais gael ei gymeradwyo.