Mae'r lwfans byw yn gronfa ychwanegol a ddyfernir i'r dysgwyr hynny sy'n gallu darparu tystiolaeth eu bod yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol (dysgwyr mewn gofal maeth neu sy'n cael eu cefnogi mewn rhyw ffordd gan Weithiwr Cymdeithasol, er enghraifft), dysgwyr rhwng 19 a 25 oed sy'n gadael gofal, a dysgwyr o dan 25 oed sy'n cael eu hystyried yn Ofalwyr Ifanc – gall tystiolaeth o hyn fod ar ffurf llythyr swyddogol gan weithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth, meddyg teulu neu asiantaeth allanol fel yr YMCA.