Tocynnau teithio a lwfans petrol

Os ydych ar gwrs amser llawn (mwy na 12 awr yr wythnos) ac yn byw mwy na 3 milltir i ffwrdd o'r campws, yna gallai ffi weinyddol flynyddol sy'n olygu bod dysgwyr cymwys* yn gallu teithio am ddim am y flwyddyn academaidd gyfan. Mae gan y coleg gontractau gyda Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru, New Adventure Travel a First Cymru, a gall dysgwyr gael tocyn gan unrhyw un o'r cwmnïau hyn, i deithio o'u prif gyfeiriad cartref i'r campws lle maent yn astudio eu cwrs llawn amser; defnyddiwch y ddolen hon i ddewis y dull gorau i chi deithio i'r coleg os nad ydych yn siŵr: https://www.traveline.cymru/

Sylwch na ellir newid tocynnau teithio hanner ffordd drwy’r tymor, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis y tocyn teithio mwyaf priodol i deithio yn ôl ac ymlaen i'r coleg.

Mae'r codau post ar gyfer y safleoedd unigol i'w gweld yma.

*bydd tocyn teithio dysgwyr sy'n tynnu'n ôl neu'n trosglwyddo i gwrs anghymwys yn cael ei ganslo.

Gall dysgwyr dros 19 oed sy'n gymwys i gael FCF, sy'n astudio'n llawn amser ac sy'n byw mwy na 3 milltir i ffwrdd o'u prif gampws gael lwfans petrol. Mae'r swm a ddyfernir yn dibynnu ar y pellter rhwng eich cyfeiriad cartref a'ch prif gampws, a hefyd faint o ddyddiau yr ydych wedi'u hamserlennu i fod yn y coleg.