Ffioedd cofrestru a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr sy'n gobeithio symud ymlaen i'r brifysgol o Goleg Caerdydd a'r Fro dalu ffi UCAS – gall y FCF helpu i dalu'r ffi hon i'r dysgwyr hynny sy'n gymwys i gael LCA neu GDLlC. Os yw'n ofynnol i chi fynychu lleoliad gwaith fel rhan o'ch cwrs llawn amser, a bod angen i chi gael DBS i wneud hyn (£44), yna bydd y coleg yn eich ad-dalu'n rhannol am y gost hon (£22).