Rygbi Dynion

Mae Academi Rygbi CAVC yn darparu llwyfan perffaith i chwaraewyr rygbi talentog, sy’n 16-19 oed, sydd â diddordeb mewn perfformiad a rygbi ar lefel elitaidd.
Fel y coleg sy’n bartner swyddogol i Rygbi Caerdydd, darparwn y cyfleusterau, yr hyfforddiant, y cysylltiadau, ynghyd â chymorth cynhwysfawr diguro, sy’n eich galluogi i gyflawni eich potensial.
Mae Academi Rygbi CAVC wedi ennill cystadlaethau cenedlaethol, ac wedi datblygu enw a hanes o feithrin a datblygu talent ar gyfer y rhanbarth a Chymru.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Y cydbwysedd iawn

  • Mae eich athrawon a’ch hyfforddwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau nad yw eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau o ran chwaraeon yn gwrthdaro. Rydym yn creu’r cydbwysedd iawn i’ch galluogi i gyflawni eich potensial yn y naill agwedd a’r llall.

Hanes o lwyddiant

  • Mae Academi Rygbi CAVC yn enillwyr Cwpan Ysgolion a Cholegau Cymru, gan ennill eu gêm derfynol yn Stadiwm y Principality.
  • Ers ei sefydlu yn 2016, fe aeth 28 o fyfyrwyr ymlaen i chwarae ar lefel ryngwladol, mewn timau fel rhai Dan 18 a Phrif Garfan Saith Bob Ochr Cymru.
  • Mae dros 100 o fyfyrwyr wedi cynrychioli Rhanbarth Gleision Caerdydd, o’r rhai Dan 18 i lefel y brif garfan.
  • Mae nifer o chwaraewyr CAVC wedi mynd ymlaen i brifysgolion chwaraeon blaenllaw, ac maent bellach yn cynrychioli timau fel Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Loughborough a Phrifysgol Caerwysg.

Cyfleusterau rhagorol

  • Parc yr Arfau: calon rygbi rhanbarthol a lleoliad â phroffil uchel ar gyfer rhai gornestau cartref yn ystod y tymor.
  • Campfa Perfformiad Uchel Gethin Jenkins yn ein Campws yng Nghanol y Ddinas: un o’r cyfleusterau gorau o’i fath ar gyfer datblygu cryfder a chyflyru.
  • Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) a Pharc y Gamlas yng Nghampws Canol y Ddinas: gyda meysydd chwarae o’r safon orau, ynghyd â chromennau chwaraeon o’r radd flaenaf sy’n sicrhau y gellir cynnal sesiynau hyfforddiant a gemau trwy gydol y flwyddyn.
  • Mae llety ar gael i fyfyrwyr o bell sy’n dymuno ymuno â CAVC ac un o’n hacademïau.

Hyfforddiant arbenigol proffesiynol

  • Hyfforddiant rygbi proffesiynol bob wythnos.
  • Tîm hyfforddi o’r safon orau, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rygbi Lefel 4, ynghyd â thîm o hyfforddwyr arbenigol sy’n cynnwys chwaraewyr rygbi proffesiynol cyfredol.

Cryfder a chyflyru proffesiynol a chymorth cynhwysfawr

  • Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru sy’n sicrhau rhaglen ddatblygu bersonol ar gyfer bob chwaraewr.
  • Mynediad i sesiynau ffisiotherapi wythnosol, ynghyd ag amrywiaeth o gymorth o safbwynt gwyddor chwaraeon, fel maetheg, seicoleg a dadansoddi perfformiad.

Gornestau cystadleuol

  • Hyd at 20 gornest yng Nghynghrair Colegau Cymru a Phrydain bob tymor.
  • Cymryd rhan mewn twrnameintiau â phroffil uchel, gan gynnwys twrnamaint 7 bob ochr Rosslyn Park.
  • Taith Ryngwladol: gyda’r un ddiweddaraf i Japan, pryd y dewiswyd CAVC y gynrychioli Cymru yng Nghwpan Ieuenctid y Byd SANIX.

Partneriaethau proffesiynol

  • CAVC yw’r Coleg sy’n Bartner Swyddogol i Rygbi Caerdydd: sydd o fudd o ran proffil chwaraewyr a chyfleoedd i gamu ymlaen.
  • Llwybrau cynnydd sefydledig, gan gynnwys y rheiny i Rygbi Caerdydd, Clwb RFC Caerdydd, prifysgolion chwaraeon blaenllaw a charfanau cenedlaethol.
  • Amgylchedd cefnogol sy’n caniatáu i chi barhau i chwarae rygbi domestig gyda’ch clwb dewisedig.

Mae CAVC yn falch i weithio mewn partneriaeth â Gleision Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth am ein Hacademi Rygbi llenwch y ffurflen isod: