Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Cwpan Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru.
Coronwyd yr Academi yn Bencampwyr Cymru ar ôl gêm galed yn erbyn Coleg Llanymddyfri yn Stadiwm y Principality. Dyma'r tro cyntaf i dîm CAVC gyrraedd y rownd derfynol, ar ôl tymor gwych gan ennill naw allan o ddeg gêm a chymhwyso o Bŵl Llwybr Caerdydd.
Roedd Academi Rygbi CAVC ar y blaen o 13-0 yn gynnar yn erbyn Llanymddyfri ar ôl i Harrison James drosi ei gais ei hun a chicio dwy gic gosb. Roedd yr amddiffynwyr yn rheoli i ddechrau, ond ar ôl rhai gwallau oherwydd nerfusrwydd, llwyddodd Llanymddyfri i sgorio dau gais ychydig cyn hanner amser.
Yn dilyn sgwrs i’w sbarduno yn ystod yr egwyl gan y Cyfarwyddwr Rygbi Martyn Fowler, daeth yr Academi allan yn llawn egni gyda neges glir ynghylch y newidiadau oedd eu hangen i adennill momentwm – a mynd nôl ar y blaen.
Gyda chais o sgarmes yrru, sgoriodd Harper Chamberlain yng nghornel pen y ddinas. Ni chaniatawyd cais pellach gan Harper ond dangosodd y camerâu ei fod wedi sgorio, ond roedd y penderfyniad wedi’i wneud.
Wrth i’r glaw syrthio yn y stadiwm cenedlaethol, sgoriodd Finn Charles gic gosb ddewr wedi 65 o funudau i selio buddugoliaeth enwog - 23-17 i Academi Rygbi CAVC.
Ffurfiwyd Academi Rygbi CAVC yn 2014 i ddarparu'r llwyfan perffaith ar gyfer myfyrwyr ifanc, ymroddedig sydd â diddordeb mewn perfformio a rygbi lefel elitaidd. Mae'r Academi yn rhoi pwyslais cadarn ar gydbwysedd rhwng perfformiad chwaraeon a chyflawniad addysgol ac mae CAVC wedi ymrwymo i gefnogi’r chwaraewyr gyda'r ddau.
Dywedodd Martyn Fowler, Cyfarwyddwr Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae cyrraedd y rownd derfynol ac ennill gyda rhaglen Academi Rygbi sydd, o’i chymharu ag eraill, yn dal yn ifanc iawn yn dyst i’r oriau o waith mae’r grŵp chwarae yma a’u staff hyfforddi yn ymrwymo iddo bob dydd.”
Dywedodd y Capten Tom Caple: “Mae’r penderfyniad i adael yr ysgol i ddod i Goleg Caerdydd a’r Fro yn un o’r penderfyniadau gorau wnes i erioed. Mae'r Coleg wedi cyflawni'r addewidion academaidd a rygbi a wnaeth, gyda buddugoliaeth yn Rownd Derfynol y Cwpan ac o ran fy astudiaethau, a minnau ar y llwybr i fynd i’r brifysgol sy’n ddewis cyntaf i mi.
“Profiad Rownd Derfynol y Cwpan oedd diwrnod gorau fy mywyd i.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Mae ennill Rownd Derfynol Cwpan Ysgolion a Cholegau Cymru ar ôl gêm mor dynn yn gyflawniad gwych i’n Hacademi Rygbi. Mae'r holl hyfforddiant maen nhw wedi'i wneud ar y cae ac yn y gampfa, y brecwastau pŵer cyn gwersi a’r addysg maeth, wedi gwneud byd o wahaniaeth i'n chwaraewyr ni yn yr Academi Rygbi.
“Hoffwn longyfarch y chwaraewyr am fuddugoliaeth sy’n adlewyrchu eu hymrwymiad a’u hymroddiad mewn blwyddyn anodd, a Martyn a’r hyfforddwyr rygbi a’r tîm cefnogi am ganlyniad mor wych - mae pawb yn y Coleg yn hynod falch ohonoch chi.”