Coleg Caerdydd a’r Fro yn croesawu Dai Young, cyn-chwaraewr Cymru a’r Llewod a hyfforddwr o fri, fel Pennaeth Rygbi newydd

21 Maw 2024

Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) wedi penodi Dai Young fel ei Phennaeth Rygbi newydd.

Mae gan Dai doreth o brofiad fel chwaraewr a hyfforddwr a bydd yn cynnig gwybodaeth o’r radd flaenaf am y byd rygbi proffesiynol.

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, enillodd Dai 51 o gapiau dros Gymru a thri chap prawf dros Lewod Prydain ac Iwerddon yn ystod tair taith. Ac yntau’n Gyn-gyfarwyddwr Rygbi Caerdydd a’r Wasps, bydd yn cynnig profiad hyfforddi helaeth o’r radd flaenaf sy’n cwmpasu mwy nag 20 mlynedd yn y gêm broffesiynol.

Erbyn hyn, mae Academi Rygbi CCAF wedi ennill ei phlwyf fel llwybr gwych i chwaraewyr rygbi ifanc dawnus ar gyfer ennill addysg ôl-16 o’r radd flaenaf mewn amgylchedd chwaraeon ysbrydoledig, gan eu galluogi i gyrraedd eu potensial ar y cae ac oddi arno. Mae cryn lwyddiant wedi dod i ran yr academi – hi oedd Pencampwr Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru yn 2021 a 2022 a Phencampwr Cwpan Datblygu Ysgolion a Cholegau Cymru yn 2023. Hefyd, mae nifer o chwaraewyr wedi camu yn eu blaen i chwarae dros eu rhanbarth ac ennill capiau cenedlaethol, ac mae cyn-chwaraewyr wedi cynrychioli tîm Dan 20 ac Uwch-dîm Dynion Cymru, yn cynnwys Mackenzie Martin ac Evan Lloyd yng ngemau diweddar y Chwe Gwlad.

Angerdd Dai dros ddatblygu llwybr i chwaraewyr yng Nghymru, ochr yn ochr â’r trefniadau yn CCAF, a’i denodd at ei rôl newydd. Medd Dai,

“Rydw i wastad wedi bod yn angerddol dros ddatblygu chwaraewyr yng Nghymru,” esboniodd. “Fel Cymro balch, rydw i’n credu bod angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin a chadw talentau o fewn ein gwlad. Bydd cynnig y llwybr iawn yn helpu i wireddu hyn.

“Mae CCAF wedi creu argraff fawr arnaf. Mae’n lle gwych i astudio – ni waeth be fo’u dyheadau ac o safbwynt rygbi mae’r cyfleusterau a’r ymrwymiad i gynorthwyo chwaraewyr ifanc yn hynod o drawiadol. Mae gan Academi Rygbi CCAF hanes blaenorol o ddatblygu doniau ifanc rhanbarthol a rhyngwladol ac rydw i’n credu y gallaf adeiladu ar y llwyddiant a’r cymorth presennol.

“Rydw i eisiau sicrhau’r amgylchedd a’r diwylliant iawn, lle bydd y chwaraewyr yn teimlo eu bod yn dysgu ac yn gwella bob wythnos. Mae yna lawer o waith da yn cael ei wneud eisoes yn y wlad i gynorthwyo a chadw doniau ifanc o Gymru. Mae CCAF ar flaen y gad yn hyn o beth ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu hyn ymhellach.”

Medd Kevin Robinson, Pennaeth Cynorthwyol Technoleg a Chwaraeon: “Pleser yw croesawu Dai fel Pennaeth Rygbi – mae ganddo doreth o wybodaeth a phrofiad yn ogystal â gweledigaeth wirioneddol o ran sut allwn ni wella mwy fyth ar yr hyn a wnawn i gynorthwyo doniau rygbi ifanc.

“Mae CCAF wedi datblygu’n goleg arweiniol ar gyfer chwaraeon. Rydym yn danbaid dros alluogi pobl ifanc i ennill addysg o’r radd flaenaf, pa un a fyddan nhw’n astudio cymwysterau Safon Uwch neu un o’n cyrsiau gyrfaoedd, ochr yn ochr ag elwa ar amgylchedd ysbrydoledig i feithrin eu dewis gamp a chyrraedd eu potensial. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein model – gyda chyfleusterau a chymorth rhagorol a hyfforddwyr profiadol ac uchel eu parch ar draws ein hacademïau chwaraeon. Mae penodi Dai i arwain ein Hacademi Rygbi yn newyddion cyffrous iawn i’r coleg ac i’r dysgwyr a fydd yn elwa ar yr Academi Rygbi.”